Sut a phryd mae gwneud cais
Sut mae gwneud cais
Y ffordd gyflymaf a’r mwyaf syml o wneud cais yw ar-lein.
Mae yna 3 cam syml i wneud cais ar-lein:
- cofrestre gyda ni
- mewngofnodi i'ch cyfrif cyllid myfyriwr ar-lein a chyflwyno'ch cais
- rhoi unrhyw dystiolaeth angenrheidiol i ni
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar-lein, gofynnir i chi hefyd a ydych am wneud cais am Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu Rhieni, Grant Oedolion Dibynnol a/neu Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
Os byddwch chi'n ateb ie, bydd y ffurflenni perthnasol ar gael i'w lawrlwytho o'ch cyfrif.
Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch. Ewch i'n tudalen darganfod ffurflenni i lawrlwytho ffurflenni a nodiadau canllaw.
Os wnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Medi 2014, dylech gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.
Pryd mae ymgeisio
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser wedi agor erbyn hyn!
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn awr!
Gallwch wneud cais am hyd at 9 mis ar ôl dechrau’ch blwyddyn academaidd. Os wnewch gais wedi hyn, does dim sicrwydd y byddwch yn derbyn unrhyw gyllid.