Cam 4: Yn ystod eich cwrs
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Newidiadau i’ch gwybodaeth neu’ch amgylchiadau

Newidiadau y mae’n rhaid i chi sôn wrthym amdanynt

Mae angen i chi roi gwybod i ni:

  • os bydd cyfeiriad eich cartref yn newid
  • os bydd y man yr ydych yn byw ynddo yn ystod y tymor yn newid
  • os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid
  • os byddwch yn gadael eich cwrs
  • os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid

Os ydych wedi gwneud cais am gymorth gyda ffïoedd yn unig, ni allwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i sôn wrthym am newidiadau. Bydd angen i chi anfon ffurflen CO2 atom yn lle hynny.

Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?

Os bydd eich cyfeiriad yn newid

Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon yn eich cyfrif ar-lein.

Bydd y man lle’r ydych yn byw yn ystod y tymor yn effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael, felly gallai’r ffaith bod eich cyfeiriad yn newid olygu bod gormod o gyllid myfyrwyr wedi’i dalu i chi.

Os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid

Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon yn eich cyfrif ar-lein os na fydd eich cwrs wedi dechrau.

Os yw eich cwrs wedi dechrau, bydd angen i chi ofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym.

Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?

Os byddwch yn gadael eich cwrs neu’n rhoi’r gorau iddo dros dro

Bydd angen i chi gysylltu â ni a gofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym hefyd.

Byddwn yn stopio unrhyw daliadau sydd i ddod ac yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y mae gennych hawl iddo. Mae hynny’n golygu y gallai gormod o gyllid myfyrwyr fod wedi’i dalu i chi ac y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint ohono cyn i chi ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Os byddwch yn gohirio eich cwrs oherwydd salwch, efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus am 60 diwrnod ychwanegol. Bydd angen i'ch prifysgol ein hysbysu bod eich ataliad yn gysylltiedig â salwch. Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth o hyn.

Gallwch hawlio am gymorth Caledi Ariannol os ydych wedi cael ailasesiad o’ch hawl a bydd y newid yn eich rhoi dan anfantais ariannol. Efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus yn ystod eich cyfnod o ataliad.

Os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid

Rhaid i chi ysgrifennu atom a dweud wrthym os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid. Rhaid i’r llythyr gynnwys:

  • eich cyfeirnod cwsmer
  • y dyddiad
  • eich llofnod
  • tystiolaeth i ddangos bod eich enw neu’ch statws priodasol wedi newid.

Ysgrifennu atom

Os ydych am newid swm y benthyciad y gwnaethoch ofyn amdano

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen.

Newidiadau y mae’n rhaid i’ch rhieni neu’ch partner sôn wrthym amdanynt

Os bydd eu hincwm yn newid

Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner:

Os byddant yn cael plentyn arall

Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner ddweud wrthym os byddant yn cael rhagor o blant, drwy anfon ffurflen PFF2 newydd atom.