Myfyrwyr rhan-amser, israddedig

Beth yw eich cenedligrwydd?

Bydd o ble’r ydych yn dod a ble’r ydych yn byw o gymorth hefyd i benderfynu pa fathau o gyllid y gallwch eu cael. Darllenwch y ddau opsiwn a phenderfynwch pa un sy’n berthnasol i chi.

Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser 2023 i 2024 nawr ar agor!

Myfyriwr Cymreig

Nid myfyrwyr o Gymru yn unig yw myfyrwyr Cymreig. Mae eich cenedligrwydd yn bwysig ond nid dyna’r unig ystyriaeth. Byddwch yn fyfyriwr Cymreig os ydych yn un o’r canlynol:

  • rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs
  • rydych wedi byw yn y DU, yr AEE (gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon), y Swistir neu’r Tiriogaethau Tramor am y 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • rydych wedi cael statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.

Bydd angen hefyd eich bod yn byw yng Nghymru ar neu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.

Gallwch hefyd fod â math o statws preswylio eithriedig cymwys, megis statws ffoadur, person diwladwriaeth neu berson sydd wedi cael gwarchodaeth ddyngarol.

Os nad ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig, mae’n bosibl y byddwch yn dal yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd.

Myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd

Myfyrwyr o’r UE yw gwladolion yr UE sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd neu aelod o deulu un o wladolion yr UE, ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig
  • rydych wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig gael y statws hwn)
  • rydych wedi byw yn y DU, yr AEE (gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon), y Swistir neu’r Tiriogaethau Tramor am y 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • byddwch yn astudio yng Nghymru Gallwch hefyd fod â mathau eraill o statws preswylio, er enghraifft rydych yn aelod o deulu person o Ogledd Iwerddon neu’n un o wladolion y DU sy’n preswylio yn Gibraltar.

Os nad ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig nac yn fyfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl na fyddwch yn gymwys i gael cyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Efallai y bydd eich prifysgol neu’ch coleg yn gallu sôn wrthych am ffynonellau amgen posibl o gyllid.