Ad-dalu eich cyllid myfyrwyr
Ein canllaw i ad-dalu, ar GOV.UK, yw’r lle gorau i gael gwybodaeth am ad-dalu eich cyllid myfyrwyr. Mae’n ymdrin â phynciau pwysig megis:
- pryd y byddwch yn dechrau ac yn gorffen ad-dalu
- faint y byddwch yn ei ad-dalu
- sut mae ad-dalu â thaliadau gwirfoddol
- cael ad-daliad
- diweddaru manylion eich cyflogaeth
Sicrhau bod eich cyfrif yn gyfredol hyd yn oed ar ôl i chi orffen astudio
Bydd angen i ni allu cysylltu â chi i ddweud wrthych:
- os oes unrhyw beth o’i le gyda’ch cyfrif neu’ch ad-daliadau
- os ydych yn nesáu at ad-dalu eich benthyciad. Fel arall, mae’n bosibl y byddwch yn talu mwy nag y mae angen i chi ei wneud
Mae sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol nes bod eich benthyciad wedi’i ad-dalu yn llawn neu wedi’i ganslo yn rhan o’ch cytundeb cyllid myfyrwyr. Bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion (yn agor mewn tab newydd) os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis.
Cyllid myfyrwyr: y cynllun dileu rhannol
Os ydych wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig llawn-amser ac os byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at £1,500 o unrhyw falans Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr llawn-amser. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/cyllid-myfyrwyr-y-cynllun-dileu-rhannol (yn agor mewn tab newydd)
Ein canllaw i ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr
Gwybodaeth am ad-dalu, gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ar GOV.UK
Ewch i Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, ar GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)