Cyllid ar gyfer Addysg Bellach
Mae ceisiadau ar gyfer LCA a GDLlC AB yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024 nawr ar agor! Gwiriwch ein stori newyddion i ddarganfod sut i wneud cais.
Pa fath o fyfyriwr ydych chi?
Yn parhau â’ch addysg ar ôl oedran gadael ysgol
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer y rheiny sy’n 16 i 18 mlwydd oed, yn byw yng Nghymru, ac sydd am barhau gyda’u haddysg wedi iddynt adael oedran gadael yr ysgol. Os yr ydych yn gymwys, fe allech dderbyn £40 yr wythnos, a thelir bob pythefnos.
Yn astudio cwrs addysg bellach mewn coleg
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach ar gyfer myfyrwyr 19 oed neu'n hŷn sy'n astudio cwrs Addysg Bellach mewn coleg. Os ydych chi'n gymwys, fe allech chi dderbyn hyd at £1,500 y flwyddyn.