Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Ydych chi’n meddwl tybed a yw Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn addas i chi?
Dyma gyfle i chi gael gwybod beth i’w ddisgwyl cyn ac ar ôl i chi wneud cais.
Mae ceisiadau ar gyfer LCA yn ystod blwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor! Darganfyddwch sut i ymgeisio.
Cyn i chi wneud cais
Beth yw Lwfans Cynhaliaeth Addysg a phwy all ei gael?
Beth yw LCA?
Tâl i bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd am barhau â’u haddysg ar ôl oedran gadael ysgol.
Cymhwysedd ar gyfer LCA
Pedwar prif beth sydd yn penderfynu os ydych yn gallu cael LCA
Rhieni, gwarcheidwaid a phartneriaid
Rydym wedi cynnwys adran i helpu ateb cwestiynau posibl gan rieni am LCA.
Gwneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu a sut y byddwn yn cyfrifo faint y gallwch ei gael.
Sut mae gwneud cais a phryd
Ydych chi’n barod i wneud cais? Gwnewch yn siŵr bod eich cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi’i asesu a bod popeth yn barod ar gyfer dechrau’r tymor.
Incwm y cartref
Bydd eich cymhwysedd i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn dibynnu ar incwm eich cartref a’ch amgylchiadau teuluol.
Tystiolaeth
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ynghylch rhywfaint o’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn eich cais.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais
Mae eich cais wedi’i asesu ac mae gennym bopeth y mae arnom ei angen, felly beth fydd yn digwydd nesaf?
Cael eich taliadau LCA
Mae yna rai pethau y mae angen iddynt fod mewn trefn cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Yn ystod eich cwrs
Os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais. Gallai newid eich cais effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae diweddaru eich cyfrif a pha newidiadau y mae angen i chi sôn wrthym amdanynt.
Tystiolaeth atodol
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am fwy o dystiolaeth gennych yn ystod eich cwrs i sicrhau bod gennych hawl i LCA o hyd.