Cam 4: Yn ystod eich cwrs
Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyllid ar gyfer Addysg Bellach
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Gallai rhai newidiadau effeithio os ydych yn dal yn gymwys neu beidio i gael LCA. Felly, dylech ddweud wrthym os bydd unrhyw beth yn newid. Dylech hefyd siarad â'ch ysgol neu goleg os ydych yn meddwl y gallai unrhyw un o'r newidiadau hyn effeithio ar eich presenoldeb.
Os bydd unrhyw un o’r canlynol yn newid, dylech ein ffonio i roi gwybod i ni. Byddwn yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud.
- Eich enw
- Y man lle’r ydych yn byw neu’ch trefniadau byw
- Y man lle’r ydych yn astudio
- Os byddwch yn dod yn gyfrifol am blentyn
- Os bydd person ifanc arall sy’n byw yn eich cartref yn dibynnu’n ariannol ar yr un bobl â chi
- Eich amgylchiadau ariannol.