Cael eich taliadau LCA
Eich llythyr dyfarnu
Byddwn yn anfon llythyr dyfarnu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus a’ch bod yn gymwys i gael LCA.
Bydd eich llythyr:
- yn cadarnhau’r dyfarniad a’r man lle’r ydych yn astudio
- yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn cael eich taliadau
- yn eich atgoffa i gysylltu â ni os bydd unrhyw beth yn newid.
Eich Cytundeb LCA
Cytundeb yw hwn rhyngoch chi a’ch ysgol neu’ch coleg. Mae’n amlinellu meini prawf ar gyfer presenoldeb er mwyn i chi gael eich taliadau LCA. Dylech lofnodi’r Cytundeb pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.
Os byddwch yn ei lofnodi cyn pen y 13 wythnos gyntaf, bydd eich taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i ddechrau eich cwrs.
Os byddwch yn ei lofnodi dros 13 wythnos ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, byddwch yn cael taliadau o’r dydd Llun cyntaf ar ôl i ni gael eich cais.
Cael eich talu
Ar ôl llofnodi eich Cytundeb LCA, bydd eich ysgol neu’ch coleg yn cadarnhau eich bod yn bresennol. Cyhyd â’ch bod yn bodloni’r telerau a gytunwyd gyda’ch ysgol neu’ch coleg, byddwch yn cael eich taliadau bob pythefnos.
Bydd eich taliadau LCA yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc sydd yn eich enw. Dylech sicrhau bod y manylion banc yr ydych wedi’u rhoi i ni’n gywir.
Os byddwch wedi anfon y dystiolaeth gywir, gellir gwneud taliadau i drydydd parti.