Cael eich taliadau LCA


Eich llythyr dyfarnu

Byddwn yn anfon llythyr dyfarnu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus a’ch bod yn gymwys i gael LCA.

Bydd eich llythyr:

  • yn cadarnhau’r dyfarniad a’r man lle’r ydych yn astudio
  • yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn cael eich taliadau
  • yn eich atgoffa i gysylltu â ni os bydd unrhyw beth yn newid.

Eich Cytundeb LCA

Mae hyn yn gytundeb rhyngoch chi a’ch ysgol neu goleg. Mae'n amlinellu'r meini prawf presenoldeb i chi gael eich taliadau LCA.

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar eich presenoldeb, dylech siarad â'ch ysgol neu goleg. Dylent allu esbonio pa fath o absenoldebau fydd yn eich atal rhag cael eich LCA.

Os ydych chi'n gymwys i gael LCA cyn i'ch cwrs ddechrau

Dylech lofnodi’r Cytundeb pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.

Os byddwch yn dod yn gymwys ar gyfer LCA ar ôl i'ch cwrs ddechrau

Dylech lofnodi hwn cyn gynted ag y byddwch yn gymwys.

Cael eich talu

Ar ôl llofnodi eich Cytundeb LCA, bydd eich ysgol neu’ch coleg yn cadarnhau eich bod yn bresennol. Cyhyd â’ch bod yn bodloni’r telerau a gytunwyd gyda’ch ysgol neu’ch coleg, byddwch yn cael eich taliadau bob pythefnos.

Byddwn yn anfon neges destun atoch ychydig ddyddiau cyn i ni wneud eich taliad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi rhif ffôn symudol diweddar i ni pan fyddwch yn gwneud cais!

Bydd eich taliadau LCA yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc sydd yn eich enw. Dylech sicrhau bod y manylion banc yr ydych wedi’u rhoi i ni’n gywir. 

Os byddwch wedi anfon y dystiolaeth gywir, gellir gwneud taliadau i drydydd parti.

Diweddaru eich manylion banc

Os gwnaethoch gais ar-lein am LCA, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i ddiweddaru eich manylion banc.

Os gwnaethoch gais gan ddefnyddio ffurflen gais bapur, bydd angen i chi ein ffonio i’w diweddaru.