Myfyrwyr israddedig

Ydych chi’n astudio’n llawn-amser, yn astudio’n rhan-amser neu’n cefnogi cais?

Dyma gyfle i chi gael gwybod pa gyllid y gallwch ei gael a sut mae gwneud cais, neu beth y mae angen i chi ei wneud i gefnogi cais.

Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn a rhan-amser 2024 i 2025 nawr ar agor! Mewngofnodwch neu crëwch gyfrif i wneud cais.

Llawn-amser

Ar gyfer myfyrwyr a fydd yn astudio’n llawn-amser ar gyfer Gradd, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).

Rhan-amser

Ar gyfer myfyrwyr a fydd yn astudio’n rhan-amser ar gyfer Gradd, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).

Mae hynny hefyd yn cynnwys dysgwyr o bell yn y lluoedd arfog sy’n astudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser.

Rwy’n rhiant neu’n bartner myfyriwr

Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am gyllid myfyrwyr a chael gwybod beth y dylech ei wneud os gofynnwyd i chi gefnogi cais myfyriwr.