Gwybodaeth i rieni a phartneriaid
Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm os yw eich plentyn neu’ch partner wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gall eich plentyn neu’ch partner ei gael.
Rhoi manylion eich incwm i ni
Pan fydd eich plentyn neu’ch partner wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, byddwch yn cael neges ebost sy’n cynnwys dolen gyswllt er mwyn i chi ddarparu eich manylion. Os byddai’n well gennych roi eich manylion i ni ar bapur, gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth ar ein tudalen bwrpasol.
Bydd angen i chi roi manylion incwm eich cartref yn ystod blwyddyn dreth flaenorol, sef:
- blwyddyn dreth 2020 i 2021 os yw eich plentyn neu’ch partner yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023
- blwyddyn dreth 2019 i 2020 os yw eich plentyn neu’ch partner yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022
Os ydych yn cefnogi cais eich plentyn
Incwm eich cartref yw cyfanswm:
- eich incwm chi
- incwm eich partner, os ydych yn byw gyda’ch partner (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol)
unrhyw incwm nas enillwyd sydd gan y myfyriwr, er enghraifft o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo.
Os ydych yn cefnogi cais eich partner
Incwm eich cartref yw cyfanswm:
- eich incwm chi
incwm y myfyriwr, os ydych yn byw gyda’r myfyriwr (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol).
Os yw eich incwm wedi gostwng
Gallwch roi eich manylion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol os ydych yn credu y bydd incwm eich cartref yn gostwng 15% neu fwy o’i gymharu â’r flwyddyn dreth y gofynnwyd i chi ddarparu manylion ar ei chyfer.
Cyflwyno tystiolaeth
Peidiwch ag anfon eich ffurflen P60 neu’ch Ffurflen Dreth atom. Os byddwch yn gwneud hynny, gallai arafu cais y myfyriwr.
Ni fydd angen fel rheol i chi anfon tystiolaeth o incwm eich cartref atom, oherwydd byddwn yn gwirio eich manylion gyda Chyllid a Thollau EM. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am dystiolaeth o’r canlynol:
- eich statws priodasol, os ydych wedi gwahanu neu wedi ysgaru
- eich incwm, os ydych yn byw dramor neu’n cwblhau eich asesiad o incwm y flwyddyn gyfredol
Byddwn yn dweud wrthych pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno.
Newid eich manylion
Rhaid i chi ddweud wrthym:
- os gwnaethoch gamgymeriad
- os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft eich statws priodasol neu os byddwch yn cael plentyn arall.
Gallwch wneud hynny drwy gyflwyno ffurflen:
Os bydd eich incwm yn gostwng
Gallwch ofyn i ni ddefnyddio manylion am incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn lle’r flwyddyn dreth y cawsom fanylion gennych amdani.
Cysylltu â ni
Os byddwch yn cysylltu â ni, ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw beth am eich plentyn neu’ch partner heb gael caniatâd ganddo/ganddi. Cael gwybod sut y gall eich plentyn neu’ch partner roi caniatâd i ni.