Cefnogi cais cyllid myfyriwr eich plentyn neu bartner


Os yw eich plentyn neu bartner yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich manylion i ni fel y gallwn ddefnyddio incwm eich cartref i gyfrifo faint y gall ei gael. Mae hyn er mwyn iddynt allu cael yr uchafswm y mae ganddynt hawl iddo.

Ar ôl iddynt wneud cais byddwn yn anfon e-bost atoch i gefnogi eu cais. Dylech ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost i gefnogi eu cais ar-lein - peidiwch ag anfon P60 atom, oni bai ein bod yn gofyn i chi amdani.

1. Mewngofnodi i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr neu greu cyfrif o’r fath

Bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein ar eich cyfer chi.

Peidiwch â defnyddio cyfrif eich plentyn neu bartner i roi eich manylion i ni, rhaid i chi ddefnyddio eich cyfrif ar wahân eich hun. Rhaid i chi ddefnyddio eich cyfrif ar wahân eich hun. Os ydych chi a’ch partner yn cefnogi cais, bydd angen i’ch partner greu cyfrif ar-lein ar wahân hefyd neu fewngofnodi i’w gyfrif/i’w chyfrif ei hun.

Os ydych wedi cefnogi cais o’r blaen neu os ydych wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr yn y gorffennol, dylech fewngofnodi i’ch cyfrifar-lein presennol. Peidiwch â phoeni os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi. Gallwch eu hailosod ar y dudalen fewngofnodi.

Os ydych yn cefnogi cais sydd wedi’i gymeradwyo yn barod

Os yw’r myfyriwr wedi gwneud cais yn hwyr, mae’n bosibl y byddwn yn cymeradwyo ei gais/ei chais yn awtomatig ar gyfer yr isafswm o gyllid myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod ganddo/ganddi rywfaint o arian ar gyfer y cyfnod sy’n agos i ddechrau ei gwrs/ei chwrs. Felly, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cysylltu â chais y myfyriwr drwy eich cyfrif ar-lein.

Os ydynt yn dal i fod eisiau gwneud cais am y swm uwch o Grant Cynhaliaeth, dylech roi manylion i ni fel y gallwn ddefnyddio incwm eich cartref drwy lanlwytho ffurflen PFF2 (356KB) i'ch cyfrif ar-lein yn lle hynny.

Beth y dylech ei wneud os nad ydych wedi cael neges ebost gennym

Dylech allu cysylltu â chais y myfyriwr a rhoi eich manylion i ni ar-lein trwy deipio eu Cyfeirnod Cwsmer. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein canllaw ‘sut i’ er mwyn cefnogi cais gyda manylion incwm eich cartref.

Os na allwch gysylltu â chais y myfyriwr ar-lein, gallwch lanlwytho ffurflen PFF2 (356KB) i'ch cyfrif yn lle hynny.

2. Rhoi eich manylion i ni

O 6 Tachwedd, bydd gofyn i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i ni i gefnogi cais, fel y gallwn wirio manylion eich incwm gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Byddwn yn gwirio incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth:

  • 2022-23 os ydych yn cefnogi cais myfyriwr ar gyfer 2024 i 2025
  • 2021-22 os ydych yn cefnogi cais myfyriwr ar gyfer 2023 i 2024

Rydym yn defnyddio’r flwyddyn dreth hon gan mai hon yw’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gan CThEF i bawb.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os:

  • ydych chi wedi talu i mewn i bensiynau preifat
  • ydych chi wedi gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
  • oes gennych chi blant (ac eithrio'r myfyriwr) sy'n dibynnu arnoch chi'n ariannol

Os nad oes gennych rhif Yswiriant Gwladol, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur a darparu dogfennau ategol i ddangos faint rydych wedi’i ennill.

Peidiwch ag anfon P60 atom yn lle rhoi manylion eich incwm i ni.

Os gwnewch hynny ac nad ydym wedi gofyn am un, bydd yn cymryd mwy o amser i ni brosesu cais y myfyriwr. Gallai hyn olygu bod eich plentyn neu bartner yn cael llai o arian nag yr oedd yn ei ddisgwyl ar ddechrau’r cwrs.

3. Ar ôl i chi gefnogi’r cais

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich manylion incwm, gall gymryd hyd at 6 i 8 wythnos i ni eu prosesu a gweithio allan faint o gyllid i fyfyrwyr y gallant ei gael. Cyn gynted ag y byddwn wedi gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i’r myfyriwr.

Os bydd arnom angen unrhyw beth arall gennych, byddwn yn anfon neges ebost atoch i roi gwybod i chi.

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael gwybod mwy am y gwahanol fathau o dystiolaeth y gallwn ei derbyn, ac am sut y dylech ei hanfon, drwy fynd i’n tudalen ar gyfer canllawiau ynghylch tystiolaeth.

Cael rhagor o wybodaeth ynghylch cefnogi cais am gyllid myfyrwyr neu ynghylch yr hyn y dylech ei wneud os bydd eich incwm yn newid yn nes ymlaen yn y flwyddyn.