Hawl i rannu
Nid yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu trafod unrhyw agwedd o gyfrif neu gais y myfyriwr gydag unrhyw un ar wahân i’r myfyriwr heb ganiatâd y myfyriwr.
Mae hyn yn cynnwys rhieni neu bartner myfyriwr, cynrychiolydd cyfreithiol neu rywun o’u prifysgol neu goleg.
Fodd bynnag, gallai llawer o fyfyrwyr ei chael hi’n ddefnyddiol gadael i rywun arall ein ffonio ni ar eu rhan hwy yn achlysurol.
Beth yw caniatâd i rannu?
Awdurdod ysgrifenedig neu lafar yw caniatâd i rannu sy’n ein galluogi ni i roi gwybodaeth am gyfrif, ac eithrio’ch manylion banc, i drydydd parti rydych chi wedi’i enwi.
Sut ydych chi'n sefydlu caniatâd i rannu i rywun?
Gallwch sefydlu caniatâd yn eich cyfrif ar-lein, trwy ddewis ‘rhannu eich gwybodaeth cyllid myfyriwr’. Fel arall, gallwch sefydlu caniatâd trwy ffonio ein canolfan cymorth cwsmeriaid neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Cyllid Myfyrwyr Cymru
c/o Student Loans Company Ltd
11 Carnegie Road
Hillington
Glasgow
G52 4WH
Ffacs: 0141 306 2005
Bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:
Gwybodaeth amdanoch chi
- eich Cyfeirnod Cwsmer
- eich enw
- eich cyfeiriad
Gwybodaeth am y sawl yr ydych yn rhoi caniatâd i rannu ar ei gyfer
- ei enw/henw llawn
- ei gyfeiriad/chyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
- ei ddyddiad/dyddiad geni
- ei berthynas/pherthynas gyda chi
- cyfrinair y byddwn yn gofyn iddo/iddi amdano i wirio hunaniaeth. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth ydyw
- dyddiad sy’n nodi tan pryd mae’r caniatâd hwn i rannu yn ddilys (neu os yw’n benagored)
Os yw’r trydydd parti yn berson o brifysgol, coleg neu sefydliad arall byddwn yn gofyn i chi ddarparu:
- enw'r brifysgol, coleg neu sefydliad arall.
- cyfrinair – ni roddir unrhyw wybodaeth oni bai bod y trydydd parti yn cadarnhau hyn.
- dyddiad sy’n nodi pryd y dylai’r caniatâd i rannu ddod i ben, neu i gadarnhau a yw’n benagored.
Gall fod uchafswm o ddau drydydd parti a enwir ar unrhyw un cyfrif.
Ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru os oes gennych ganiatâd i rannu
Bob tro y byddwch yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru dros y ffôn, bydd angen i chi roi:
- Cyfeirnod Cwsmer ac enw’r myfyriwr
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
- eich dyddiad geni
- eich perthynas â’r myfyriwr
- y cyfrinair a ddewisodd y myfyriwr ac a roddodd i chi.
Atwrneiaeth
Mae Atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol swyddogol sy’n eich galluogi i ganiatáu atwrneiaeth i drydydd parti i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch cyfrif.
Er mwyn rhoi Atwrneiaeth i rywun, mae angen i chi lenwi ffurflen yn rhoi ei enw, y cyfnod penodol y gall weithredu ar eich rhan, a'r tasgau penodol y gall eu cyflawni.
Bydd angen i’r sawl sy’n dal Atwrneiaeth gadarnhau ei fanylion cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth iddo.
Dylech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am Atwrneiaeth.