Hawl i rannu


Nid yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu trafod unrhyw agwedd o gyfrif neu gais y myfyriwr gydag unrhyw un ar wahân i’r myfyriwr heb ganiatâd y myfyriwr.

Mae hyn yn cynnwys rhieni neu bartner myfyriwr, cynrychiolydd cyfreithiol neu rywun o’u prifysgol neu goleg.

Fodd bynnag, gallai llawer o fyfyrwyr ei chael hi’n ddefnyddiol gadael i rywun arall ein ffonio ni ar eu rhan hwy yn achlysurol.

Beth yw caniatâd i rannu?

Awdurdod ysgrifenedig neu lafar yw caniatâd i rannu sy’n ein galluogi ni i roi gwybodaeth am gyfrif, ac eithrio’ch manylion banc, i drydydd parti rydych chi wedi’i enwi.

Sut ydych chi'n sefydlu caniatâd i rannu i rywun?

Gallwch sefydlu caniatâd yn eich cyfrif ar-lein, trwy ddewis ‘rhoi caniatâd i rywun gysylltu â ni ar eich rhan’. Fel arall, gallwch sefydlu caniatâd trwy ffonio ein canolfan cymorth cwsmeriaid neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

c/o Student Loans Company Ltd

11 Carnegie Road

Hillington

Glasgow

G52 4WH

Ffacs: 0141 306 2005

Bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

Gwybodaeth amdanoch chi

  • eich Cyfeirnod Cwsmer
  • eich enw
  • eich cyfeiriad

Gwybodaeth am y sawl yr ydych yn rhoi caniatâd i rannu ar ei gyfer

  • ei enw/henw llawn
  • ei gyfeiriad/chyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
  • ei ddyddiad/dyddiad geni
  • ei berthynas/pherthynas gyda chi
  • cyfrinair y byddwn yn gofyn iddo/iddi amdano i wirio hunaniaeth. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth ydyw
  • dyddiad sy’n nodi tan pryd mae’r caniatâd hwn i rannu yn ddilys (neu os yw’n benagored)

Os yw’r trydydd parti yn berson o brifysgol, coleg neu sefydliad arall byddwn yn gofyn i chi ddarparu:

  • enw'r brifysgol, coleg neu sefydliad arall.
  • cyfrinair – ni roddir unrhyw wybodaeth oni bai bod y trydydd parti yn cadarnhau hyn.
  • dyddiad sy’n nodi pryd y dylai’r caniatâd i rannu ddod i ben, neu i gadarnhau a yw’n benagored.

Gall fod uchafswm o ddau drydydd parti a enwir ar unrhyw un cyfrif.

Ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru os oes gennych ganiatâd i rannu

Bob tro y byddwch yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru dros y ffôn, bydd angen i chi roi:

  • Cyfeirnod Cwsmer ac enw’r myfyriwr
  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
  • eich dyddiad geni
  • eich perthynas â’r myfyriwr
  • y cyfrinair a ddewisodd y myfyriwr ac a roddodd i chi.

Atwrneiaeth

Mae Atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol swyddogol sy’n eich galluogi i ganiatáu atwrneiaeth i drydydd parti i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch cyfrif.

Er mwyn rhoi Atwrneiaeth i rywun, mae angen i chi lenwi ffurflen yn rhoi ei enw, y cyfnod penodol y gall weithredu ar eich rhan, a'r tasgau penodol y gall eu cyflawni.

Bydd angen i’r sawl sy’n dal Atwrneiaeth gadarnhau ei fanylion cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth iddo.

Dylech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am Atwrneiaeth.