Myfyrwyr israddedig amser llawn
Pa fath o fyfyriwr ydych chi?
Bydd o ble’r ydych yn dod a ble’r ydych yn byw o gymorth hefyd i benderfynu pa fathau o gyllid y gallwch eu cael. Darllenwch y ddau opsiwn a phenderfynwch pa un sy’n berthnasol i chi.
Myfyriwr Cymreig
Nid myfyrwyr o Gymru yn unig yw myfyrwyr Cymreig. Mae eich cenedligrwydd yn bwysig ond nid dyna’r unig ystyriaeth. Byddwch yn fyfyriwr Cymreig os ydych yn un o’r canlynol:
- rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs
- rydych wedi cael statws preswylydd sefydlog ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs
- rydych wedi cael statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.
Bydd angen i chi hefyd fyw yng Nghymru ar neu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Gallwch hefyd fod â math o statws preswylio eithriedig cymwys, megis statws ffoadur, person diwladwriaeth neu berson sydd wedi cael gwarchodaeth ddyngarol.
Os nad ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig, mae’n bosibl y byddwch yn dal yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd.
Myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd
Myfyrwyr o’r UE yw gwladolion yr UE sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd neu aelod o deulu un o wladolion yr UE, ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig
- os oes gennych statws preswylydd neu statws preswylydd cyn-sefydlog o dan y cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, neu os ydych wedi gwneud cais dilys i gynllun dinasyddion yr UE a bod gennych amddiffyniad dros dro, fel y dangosir gan Dystysgrif Cais (nid oes angen hyn ar ddinasyddion Iwerddon)
- rydych wedi byw yn y DU, yr AEE (gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon), y Swistir neu’r Tiriogaethau Tramor am y 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- byddwch yn astudio yng Nghymru
Gallwch hefyd fod â mathau eraill o statws preswylio, er enghraifft rydych yn aelod o deulu person o Ogledd Iwerddon neu’n un o wladolion y DU sy’n preswylio yn Gibraltar.
Os nad ydych yn gallu nodi eich bod yn fyfyriwr Cymreig nac yn fyfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl na fyddwch yn gymwys i gael cyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Efallai y bydd eich prifysgol neu’ch coleg yn gallu sôn wrthych am ffynonellau amgen posibl o gyllid.