Sut mae gwneud cais a phryd
Bydd gwneud cais yn gynnar yn golygu bod gennych y siawns orau o gael cadarnhad ynglŷn â’ch cyllid a’i dderbyn erbyn dechrau eich cwrs.
Ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027
Os ydych yn newydd i Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027 dylech ymgeisio ar-lein.
Bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi os ydych eisoes wedi creu un. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i ymgeisio.
Os na allwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi anfon ffurflen gais bapur atom. Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.
- Ffurflen gwneud cais am LCA 2026 i 2027 (Lawrlwythiad PDF 2,271KB, yn agor mewn tab newydd)
- Nodiadau ynghylch gwneud cais am LCA 2026 i 2027 (Lawrlwythiad PDF 288KB, yn agor mewn tab newydd)
Os nad oes modd i chi ddefnyddio argraffydd, gallwch gasglu pecyn gwneud cais o’ch ysgol neu’ch coleg.
Byddwn yn derbyn eich cais ac unrhyw dystiolaeth tan 31 Awst 2027.
Cofiwch lofnodi eich Cytundeb LCA yn yr ysgol neu’r coleg er mwyn cael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.
I gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am LCA yn 2026 i 2027:
Ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026
Os ydych yn newydd i Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 dylech ymgeisio ar-lein.
Bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi os ydych eisoes wedi creu un. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i ymgeisio.
Os na allwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi anfon ffurflen gais bapur atom. Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.
- Ffurflen gwneud cais am LCA 2025 i 2026 (Lawrlwythiad PDF 2,271KB, yn agor mewn tab newydd)
- Nodiadau ynghylch gwneud cais am LCA 2025 i 2026 (Lawrlwythiad PDF 288KB, yn agor mewn tab newydd)
Os nad oes modd i chi ddefnyddio argraffydd, gallwch gasglu pecyn gwneud cais o’ch ysgol neu’ch coleg.
Byddwn yn derbyn eich cais ac unrhyw dystiolaeth tan 31 Awst 2026.
Cofiwch lofnodi eich Cytundeb LCA yn yr ysgol neu’r coleg er mwyn cael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.
I gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am LCA yn 2025 i 2026:
Dyddiadau allweddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027
Ebrill 2026
Bydd y cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn agor. Gorau po gyntaf y gwnewch chi eich cais. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod a fyddwch yn parhau i astudio yn yr ysgol neu’n mynd i goleg. Gallwch wneud cais o hyd a rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.
30 Mehefin 2026
Cyflwynwch eich cais a'ch tystiolaeth erbyn y dyddiad hwn er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo erbyn dechrau eich cwrs. Byddwch yn dal i allu ymgeisio ar ôl y dyddiad hwn.
13 wythnos
Er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau sydd wedi’u hôl-ddyddio, bydd yn rhaid i chi wneud cais cyn pen 13 wythnos ar ôl dechrau eich cwrs.
31 Awst 2027
Dyma’r dyddiad olaf y gallwn dderbyn eich cais a’ch tystiolaeth er mwyn i chi fod yn gymwys i gael LCA yn ystod blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Myfyrwyr sy’n dychwelyd
Os dyma’r ail neu’r drydedd flwyddyn y byddwch yn cael LCA, gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth drwy fynd i’n tudalen ynglŷn â Myfyrwyr sy’n dychwelyd.