Cam 2: Gwneud cais
Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Myfyrwyr sy’n dychwelyd

Os cawsoch LCA y llynedd, nid oes angen i chi ailymgeisio. Ym mis Mehefin 2024, byddwn yn anfon llythyr Dyfarnu LCA atoch ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Pan fyddwch wedi cael y llythyr hwn, dylech wirio bod y manylion i gyd yn gywir. Os oes unrhyw beth wedi newid, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Os ydym wedi gofyn i chi lenwi ffurflen neu roi rhagor o wybodaeth i ni, dylech ei phostio atom cyn gynted ag y gallwch.

Os yw’r holl wybodaeth yn eich llythyr yn gywir, y peth nesaf y bydd angen i chi ei wneud yw llofnodi eich Cytundeb LCA pan fyddwch yn dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg. Dylech ei lofnodi cyn pen 13 wythnos ar ôl i chi ddychwelyd, er mwyn i’ch taliadau gael eu hôl-ddyddio i ddechrau eich cwrs.

Os na fyddwch wedi cael llythyr gennym erbyn 30 Mehefin 2024, dylech gysylltu â ni.

Incwm y cartref

Fel y llynedd, bydd eich cymhwystra i gael LCA yn dibynnu ar incwm eich cartref a’ch amgylchiadau teuluol. Mae’r tabl yn dangos faint o arian y gallech ei gael.

Incwm y cartref Nifer y plant dibynnol (gan gynnwys y myfyriwr) Dyfarniad
£0 - £20,817 1 £40
£20,818 + 1 £0
£0 - £23,077 2+ £40
£23,078 + 1+ £0

Gwirio tystiolaeth ariannol

Os cafodd eich cais ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol ei gymeradwyo, mae’n bosibl y byddwn yn ysgrifennu at eich rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu’ch partner ac yn gofyn iddynt brofi’r wybodaeth a roddwyd ganddynt yn eich cais. Gallant wneud hynny drwy lenwi’r Ffurflen Manylion Ariannol ac anfon llungopïau o unrhyw dystiolaeth y byddwn yn gofyn amdani.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth:

  • pan oedd eich cymhwystra i gael LCA y llynedd yn seiliedig ar y ffaith bod gennych frawd neu chwaer 16 i 20 oed oedd yn byw gyda chi ac oedd yn dal yn gymwys i gael budd-dal plant.
  • pan fydd angen i ni wirio manylion ariannol a gwirio’r sefyllfa o ran eich brodyr a/neu’ch chwiorydd.

Rhaid i’ch rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth erbyn 31 Awst er mwyn i chi gael taliadau yn ystod y flwyddyn academaidd newydd.