Sut mae gwneud cais a phryd


Bydd gwneud cais yn gynnar yn golygu bod gennych y siawns orau o gael cadarnhad ynglŷn â’ch cyllid a’i dderbyn erbyn dechrau eich cwrs.

Ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Sut mae gwneud cais

Dylech wneud cais ar-lein drwy greu cyfrif neu fewngofnodi, os ydych eisoes wedi creu un. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd!

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur yn lle hynny.

Gallwch lawrlwytho’r nodiadau yma.

Os nad oes modd i chi ddefnyddio argraffydd, gallwch gasglu pecyn gwneud cais o’ch ysgol neu’ch coleg.

Byddwn yn derbyn eich cais ac unrhyw dystiolaeth tan 31 Awst 2024.

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb LCA yn yr ysgol neu’r coleg er mwyn cael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am LCA yn 2023 i 2024:

Ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Os ydych yn newydd i’r cynllun LCA ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Gallwch lawrlwytho’r nodiadau yma.

Os nad oes modd i chi ddefnyddio argraffydd, gallwch gasglu pecyn gwneud cais o’ch ysgol neu’ch coleg.

Byddwn yn derbyn eich cais ac unrhyw dystiolaeth tan 31 Awst 2023.

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb LCA yn yr ysgol neu’r coleg er mwyn cael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am LCA yn 2022 i 2023:

Dyddiadau allweddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Ebrill 2023

Bydd y cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn agor. Gorau po gyntaf y gwnewch chi eich cais. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod a fyddwch yn parhau i astudio yn yr ysgol neu’n mynd i goleg. Gallwch wneud cais o hyd a rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.

30 Mehefin 2023

Cyflwynwch eich cais a'ch tystiolaeth erbyn y dyddiad hwn er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo erbyn dechrau eich cwrs. Byddwch yn dal i allu ymgeisio ar ôl y dyddiad hwn.

13 wythnos

Er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau sydd wedi’u hôl-ddyddio, bydd yn rhaid i chi wneud cais cyn pen 13 wythnos ar ôl dechrau eich cwrs.

31 Awst 2024

Dyma’r dyddiad olaf y gallwn dderbyn eich cais a’ch tystiolaeth er mwyn i chi fod yn gymwys i gael LCA yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Myfyrwyr sy’n dychwelyd

Os dyma’r ail neu’r drydedd flwyddyn y byddwch yn cael LCA, gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth drwy fynd i’n tudalen ynglŷn â Myfyrwyr sy’n dychwelyd.