Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyllid ar gyfer Addysg Bellach
Beth yw LCA?
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn daliad wythnosol o £40 i helpu rhai 16-18 oed i helpu gyda chostau addysg bellach.
Gwneir taliadau pob pythefnos cyn belled â’ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb eich coleg.
Newydd i LCA yn 2023 i 2024?
Os ydych chi'n newydd i'r LCA, mae'r Llyfr Bach LCA yn cynnwys popeth sydd angen ei wybod arnoch.