Beth sydd ar gael
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu
Gallech gael hyd at:
- £2,625 os ydych mewn prifysgol neu goleg yng Nghymru neu’n astudio yn y Brifysgol Agored
- £6,935 os ydych mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus y tu allan i Gymru
- £4,625 os ydych mewn prifysgol neu goleg preifat y tu allan i Gymru
Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Er mwyn i chi gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu, rhaid bod dwyster y cwrs yr ydych yn ei astudio’n o leiaf 25%.
Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad, gan gynnwys llog.
Help gyda chostau byw
Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs.
Mae’r tablau hyn yn dangos faint y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref a dwyster cwrs:
2022 i 2023
Incwm y cartref | Dwyster cwrs yn 25% | Dwyster cwrs yn 50% | Dwyster cwrs yn 75% | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | |
£25,000 neu lai | £476 | £1,500 | £953 | £3,000 | £1,429 | £4,500 |
£35,000 | £841 | £1,135 | £1,683 | £2,270 | £2,525 | £3,404 |
£45,000 | £1,207 | £769 | £2,414 | £1,539 | £3,621 | £2,308 |
£59,200 neu fwy | £1,726 | £250 | £3,453 | £500 | £5,179 | £750 |
Cyfanswm | £1,976 | £3,953 | £5,929 |
2021 i 2022
Incwm y cartref | Dwyster cwrs yn 25% | Dwyster cwrs yn 50% | Dwyster cwrs yn 75% | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | |
£25,000 neu lai | £410 | £1,500 | £820 | £3,000 | £1,230 | £4,500 |
£35,000 | £775 | £1,135 | £1,551 | £2,269 | £2,326 | £3,404 |
£45,000 | £1,141 | £769 | £2,282 | £1,538 | £3,422 | £2,308 |
£59,200 neu fwy | £1,660 | £250 | £3,320 | £500 | £4,980 | £750 |
Cyfanswm | £1,910 | £3,820 | £5,730 |
Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl, a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl i’w gael yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.
Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.
Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.
Help ychwanegol
Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl
Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:
Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.