Cymorth Arbennig
Caiff Cymorth Arbennig ei ddyfarnu i fyfyrwyr sy’n hawlio rhai budd-daliadau’n ymwneud ag incwm, a bwriedir iddo helpu gyda chostau megis llyfrau, cyfarpar cyrsiau a theithio.
Os ydych yn gymwys i gael Cymorth Arbennig, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn diystyru eich hawl i grant rhan-amser, hyd at uchafswm o £4,500, wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
I gael cyngor a gwybodaeth am ddim am fudd-daliadau lles a gwasanaethau eraill, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny
Bydd y benthyciad a’r grant cynhaliaeth a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs. Nodwch y caiff y Grant Cynhaliaeth ei alw hefyd yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Mae’n bosibl y caiff Cymorth Arbennig ei alw hefyd yn Daliad Cymorth Arbennig.
Mae’r tablau hyn yn dangos faint o fenthyciad a grant cynhaliaeth y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref a dwyster cwrs:
2024 i 2025
Dwyster cwrs yn 25% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £741 | £1,500 |
£35,000 | £1,107 | £1,135 |
£45,000 | £1,472 | £769 |
£59,200 neu fwy | £1,991 | £250 |
Cyfanswm | £2,241 |
Dwyster cwrs yn 50% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £1,483 | £3,000 |
£35,000 | £2,213 | £2,270 |
£45,000 | £2,944 | £1,539 |
£59,200 neu fwy | £3,983 | £500 |
Cyfanswm | £3,953 |
Dwyster cwrs yn 75% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £2,224 | £4,500 |
£35,000 | £3,320 | £3,404 |
£45,000 | £4,416 | £2,308 |
£59,200 neu fwy | £5,974 | £750 |
Cyfanswm | £6,724 |
2023 i 2024
Dwyster cwrs yn 25% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £663 | £1,500 |
£35,000 | £1,028 | £1,135 |
£45,000 | £1,393 | £769 |
£59,200 neu fwy | £1,913 | £250 |
Cyfanswm | £2,163 |
Dwyster cwrs yn 50% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £1,325 | £3,000 |
£35,000 | £2,056 | £2,270 |
£45,000 | £2,787 | £1,539 |
£59,200 neu fwy | £3,825 | £500 |
Cyfanswm | £4,325 |
Dwyster cwrs yn 75% | ||
---|---|---|
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£25,000 neu lai | £1,988 | £4,500 |
£35,000 | £3,083 | £3,404 |
£45,000 | £4,180 | £2,308 |
£59,200 neu fwy | £5,738 | £750 |
Cyfanswm | £6,488 |
Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau sydd yn y tablau.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.
Bydd yn rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.
Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth.
Pwy sy’n gymwys
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Cymorth Arbennig os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn rhiant sengl neu’n rhiant maeth sengl, ac mae gennych blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
- mae eich partner hefyd yn fyfyriwr, ac mae un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
- mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd neu’r Premiwm Anabledd Difrifol
- rydych yn fyddar ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl
- rydych wedi cael eich trin fel rhywun nad yw’n gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos
- mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- rydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai
- rydych yn gymwys i gael yr elfen Tai sy’n perthyn i Gredyd Cynhwysol
- mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth Personol
- mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- mae gennych hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl
- rydych yn disgwyl dychwelyd i gwrs ar ôl cymryd amser a gytunwyd allan o’r cwrs hwnnw oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd wedi dod i ben erbyn hyn
- rydych yn 60 oed neu hŷn.
Sut mae gwneud cais
Gallwch wneud cais ar-lein ynmoeih pcllid myfyrwyr rhan-amser.
Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl, a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, os byddwch yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf yn yr adran ‘Pwy sy’n gymwys’ uchod, bydd y swm llawn o Grant Cynhaliaeth rhan-amser (a gaiff ei alw hefyd yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru) y mae gennych hawl iddo’n cael ei drin fel Cymorth Arbennig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a bydd yr Adran yn ei ddiystyru wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd yn gyfrifol am gadarnhau eich hawl i fudd-daliadau.
Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, dim ond ar gyfer Grant Cynhaliaeth y byddwch yn cael eich asesu, oherwydd ni fydd gennych hawl i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth.
Cael eich talu
Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn fel rheol, ar ddechrau pob tymor.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n cynnwys canllawiau am daliadau.