Pwy sy’n gymwys
Bydd eich cymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar:
- eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
- eich cwrs
- eich prifysgol neu’ch coleg
- eich oedran
- eich astudiaethau blaenorol
Eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
Gallwch wneud cais os yw pob un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig neu mae gennych statws preswylydd sefydlog
- byddwch yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- rydych wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs.
Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu gwneud cais:
- yn un o wladolion yr UE neu’n aelod o deulu un o wladolion yr UE a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- os ydych yn aelod o deulu un o wladolion y DU
- os ydych yn ffoadur
- os ydych wedi cael gwarchodaeth ddyngarol
- yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu’n aelod o deulu gweithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE; nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig gael statws dan y cynllun
- yn blentyn i un o wladolion y Swistir a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- os ydych yn blentyn i weithiwr o Dwrci
- os ydych yn berson diwladwriaeth neu’n aelod o deulu person diwladwriaeth
- os byddwch yn cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat
- os ydych wedi cael ‘caniatâd Calais’ i aros yn y DU, neu os ydych yn blentyn i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- wedi cael caniatâd dan y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan neu’n aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych wedi cael ‘caniatâd amhenodol i fynediad neu i aros’ yn y DU fel dioddefwr camdriniaeth neu drais domestig, neu os ydych yn bln sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych wedi cael ‘caniatâd amhenodol i fynediad neu i aros’ yn y DU fel partner gweddw, neu os ydych yn sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016
- wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin neu sy’n aelod o deulu rhywun sydd wedi
Rhaid hefyd eich bod yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Os na allwch chi fod yng Nghymru ar ddechrau eich cwrs oherwydd eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, efallai y byddwch yn dal i allu cael cyllid myfyrwyr.
Os nad ydych yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf cenedligrwydd neu breswyliad uchod, gallech fod yn gymwys i gael cyllid Ffioedd Dysgu yn unig o hyd. Dylech wirio'r wybodaeth am genedligrwydd a phreswyliad ar gyfer myfyrwyr sy'n ariannu ffioedd dysgu yn unig i weld a allech chi ei gael.
Eich cwrs
Rhaid bod eich cwrs yn y DU a’i fod:
- yn gwrs gradd gyntaf, er enghraifft gradd BA, BSc neu BEd
- yn gwrs Gradd Sylfaen
- yn gwrs Tystysgrif Addysg Uwch
- yn gwrs Diploma Addysg Uwch
- yn gwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch
- yn gwrs Diploma Cenedlaethol Uwch
- yn gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion
- yn gwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Dechreuodd eich cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2014
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster o 25% o leiaf ym mhob blwyddyn academaidd i fod yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr. Os byddwch yn astudio llai na 25% o ddwysedd, ni fyddwch yn gymwys i gael unrhyw gymorth.
Rhaid i chi allu cwblhau eich cwrs ym mhedair gwaith hyd y cwrs cyfwerth ag amser llawn. Uchafswm nifer y blynyddoedd y gallech fod yn gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr rhan-amser ar gyfer eich cwrs yw 16 mlynedd.
Eich prifysgol neu’ch coleg
Rhaid bod eich prifysgol neu’ch coleg:
- yn un y mae’r llywodraeth yn talu amdani/amdano
- yn un a ariennir yn breifat ond sy’n cynnal cyrsiau unigol sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Gofynnwch i’ch prifysgol neu’ch coleg os nad ydych yn siŵr a yw’n gymwys.
Eich oedran
Nid oes unrhyw derfyn oedran ar gyfer cael grantiau neu Fenthyciad Ffïoedd Dysgu.
Rhaid eich bod dan 60 oed i gael Benthyciad Cynhaliaeth.
Eich astudiaethau blaenorol
Os gwnaethoch newid cwrs neu os ydych yn ailadrodd blwyddyn
Os gwnaethoch gychwyn ar eich cwrs rhan-amser ar neu ar ôl 1 Medi 2014, a’ch bod yn dymuno newid i gwrs rhan-amser gwahanol neu’n ailadrodd blwyddyn o’r un cwrs, y nifer mwyaf o flynyddoedd y gallech fod yn gymwys i dderbyn cyllid myfyriwr rhan-amser ar gyfer eich cwrs(cyrsiau) yw 16 mlynedd. Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd o gyllid i dalu am eich cwrs rhan-amser, gan gynnwys blynyddoedd ailadrodd, bydd angen i chi dalu am y blynyddoedd ychwanegol eich hun. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Os byddwch yn newid o gwrs amser llawn i gwrs rhan-amser, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr rhan-amser. Dylech gysylltu â ni i wirio.
Os oes gennych radd yn barod
Ni allwch gael cyllid myfyrwyr ar gyfer gradd arall fel rheol. Ceir rhai eithriadau, er enghraifft os ydych am astudio:
- Pynciau Perthynol i Feddygaeth
- Y Gwyddorau Biolegol a’r Gwyddorau Chwaraeon;
- Seicoleg;
- Milfeddygaeth;
- Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Gwyddorau Cysylltiedig;
- Y Gwyddorau Ffisegol;
- Y Gwyddorau Mathemategol;
- Peirianneg a Thechnoleg;
- Cyfrifiadura;
- Cymraeg;
- Addysg Gychwynnol i Athrawon
Gallwch gysylltu â ni i wirio a yw eich cwrs yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu a grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw fel cwrs eithriedig. Os nad yw eich cwrs rhan-amser yn gwrs eithriadig, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.