Beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn 1 Medi 2018
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar ôl 1 Medi 2014, ond cyn 1 Medi 2018. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau wedi hynny.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu
Gallech gael hyd at £6,935 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio a ble’r ydych yn astudio. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad, gan gynnwys llog (yn agor mewn tab newydd), pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs ac yn ennill mwy na’r trothwy.
2024 i 2025
Ble’r ydych yn astudio | Uchafswm y benthyciad |
---|---|
Mewn unrhyw brifysgol neu goleg yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored | £2,625 |
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon | £6,935 |
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon | £4,625 |
2023 i 2024
Ble’r ydych yn astudio | Uchafswm y benthyciad |
---|---|
Mewn unrhyw brifysgol neu goleg yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored | £2,625 |
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon | £6,935 |
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon | £4,625 |
Costau byw
Gallech hefyd gael Grant Cwrs gwerth hyd at £1,155 i helpu gyda’ch costau byw. Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster o 50% neu fwy yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref:
Incwm y cartref | Grant Cwrs |
---|---|
£26,095 neu lai | £1,155 |
£26,096 i £28,179 | £1,155 i £51 |
£28,180 | £50 |
£28,181 | Dim |
Help ychwanegol
Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am: