Grant Gofal Plant
Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant er mwyn eich helpu i dalu eich costau gofal plant os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Beth sydd ar gael
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, faint o blant dibynnol sydd gennych a beth yw eich costau gofal plant.
Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau gofal plant sy’n weddill eich hun. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cael eich asesu ar gyfer swm llai o CCG ar sail dwyster eich astudiaeth.
Blwyddyn academaidd 2024 i 2025
Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:
- £189 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
- £324 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol
Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £145 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.
Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant (yn agor mewn tab newydd) sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.
Blwyddyn academaidd 2023 i 2024
Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:
- £187 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
- £321 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol
Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £144 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.
Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant (yn agor mewn tab newydd) sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant:
- os oes gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, neu dan 17 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig
- os ydych yn defnyddio darparwr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
- yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyriwr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref
Ni allwch wneud cais:
- os ydych yn hawlio elfen gofal plant Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith
- os ydych yn cael gofal plant di-dreth gan Gyllid a Thollau EM
- os ydych yn talu perthynas i ofalu am eich plentyn chi’n unig
- os ydych chi neu’ch partner yn cael cyllid gan y GIG.
Sut mae gwneud cais
Dylech wneud cais ar ôl i chi wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, drwy anfon ffurflen gais er mwyn amcangyfrif eich costau gofal plant:
- Ffurflen gwneud cais am Grant Gofal Plant – 2024 i 2025 (Lawrlwythiad PDF 292KB, yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen gwneud cais am Grant Gofal Plant – 2023 i 2024 (Lawrlwythiad PDF 1026KB, yn agor mewn tab newydd)
Os gwnaethoch nodi, wrth wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, eich bod am wneud cais am Grant Gofal Plant byddwn yn anfon y ffurflen atoch yn awtomatig.
Anfon tystiolaeth
Dim ond ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs y mae angen i chi roi tystiolaeth o'ch plant i ni. Dylech lanlwytho copi o un o'r canlynol:
- tystysgrif geni ar gyfer pob plentyn
- tystysgrif brodori ar gyfer pob plentyn
- dogfen gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau enw a dyddiad geni pob plentyn
Mae angen i chi hefyd brofi bod eich plant yn ddibynnol arnoch chi. Mae angen ichi gyflwyno copi o un o’r canlynol:
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credydau Treth diweddaraf yn eich enwi chi a’ch holl blant
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf yn eich enwi chi a nifer y plant ar eich cais
- holl dudalennau eich llythyr Budd-dal Plant diweddaraf yn enwi eich holl blant (gall hyn fod yn eich enw chi neu eich partner)
Gallwn dderbyn lawrlwythiadau neu sgrinluniau o’ch datganiad Credyd Cynhwysol neu lythyr Budd-dal Plant o’ch cyfrif ar-lein os nad oes gennych gopi papur. Rhaid i bob tudalen fod yn glir ac yn bresennol.
Dylech lanlwytho'ch holl ddogfennau ar yr un pryd er mwyn osgoi unrhyw oedi gyda'ch cais.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.
Cadarnhau eich costau
Rhaid i chi a’ch darparwr gofal plant gadarnhau eich costau gofal plant 3 gwaith y flwyddyn. Byddwn yn anfon ffurflen atoch bob tro y bydd angen i chi wneud hynny:
- Ffurflen cadarnhau taliadau gofal plant – 2024 i 2025 (Lawrlwythiad PDF 305KB, yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen cadarnhau taliadau gofal plant – 2023 i 2024 (Lawrlwythiad PDF 327KB, yn agor mewn tab newydd)
Os oes gormod o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn tynnu’r swm sy’n ormod allan o’ch taliad nesaf. Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am beth fydd yn digwydd pan fydd gormod o Grant Gofal Plant wedi’i dalu i chi.
Os nad oes digon o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn talu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os na fyddwch yn cadarnhau eich costau, bydd eich Grant Gofal Plant yn cael ei atal a bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi’n barod.
Cael eich talu
Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. Yna, gallwch ei ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am daliadau.