Cam 3: Cael eich cyllid myfyrwyr
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Cael eich cyllid myfyrwyr

Bydd eich Benthyciad Ffïoedd Dysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg mewn 3 rhandaliad, pan fyddant wedi cadarnhau eich presenoldeb.

Bydd eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn cael eu talu’n uniongyrchol i chi 3 gwaith y flwyddyn pan fydd eich prifysgol neu’ch coleg wedi cadarnhau eich bod wedi cofrestru.