Newidiadau i’ch gwybodaeth neu’ch amgylchiadau
Newidiadau y mae’n rhaid i chi sôn wrthym amdanynt
Mae angen i chi roi gwybod i ni:
- os bydd cyfeiriad eich cartref yn newid
- os bydd y man yr ydych yn byw ynddo yn ystod y tymor yn newid
- os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid
- os byddwch yn gadael eich cwrs
- os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid
Os ydych wedi gwneud cais am gyllid ffioedd dysgu yn unig, ni allwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i sôn wrthym am newidiadau. Bydd angen i chi anfon ffurflen CO2 (Lawrlwythiad 242KB, yn agor mewn tab newydd) atom yn lle hynny.
Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?
Os bydd eich cyfeiriad yn newid
Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon yn eich cyfrif ar-lein.
Bydd y man lle’r ydych yn byw yn ystod y tymor yn effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael, felly gallai’r ffaith bod eich cyfeiriad yn newid olygu bod gormod o gyllid myfyrwyr wedi’i dalu i chi.
Os bydd eich cwrs, eich prifysgol neu’ch coleg yn newid
Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon yn eich cyfrif ar-lein os na fydd eich cwrs wedi dechrau.
Os yw eich cwrs wedi dechrau, bydd angen i chi ofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym.
Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?
Os byddwch yn gadael eich cwrs neu’n rhoi’r gorau iddo dros dro
Bydd angen i chi gysylltu â ni a gofyn i’ch prifysgol neu’ch coleg ddweud wrthym hefyd.
Byddwn yn stopio unrhyw daliadau sydd i ddod ac yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y mae gennych hawl iddo. Mae hynny’n golygu y gallai gormod o gyllid myfyrwyr fod wedi’i dalu i chi ac y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint ohono cyn i chi ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.
Os byddwch yn gohirio eich cwrs oherwydd salwch, efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus am 60 diwrnod ychwanegol. Bydd angen i'ch prifysgol ein hysbysu bod eich ataliad yn gysylltiedig â salwch. Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth o hyn.
Gallwch hawlio am gymorth Caledi Ariannol os ydych wedi cael ailasesiad o’ch hawla bydd y newid yn eich rhoi dan anfantais ariannol. Efallai y byddwch yn gallu derbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus yn ystod eich cyfnod o ataliad.
Os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid
Rhaid i chi ysgrifennu atom a dweud wrthym os bydd eich enw neu’ch statws priodasol yn newid. Rhaid i’r llythyr gynnwys:
- eich cyfeirnod cwsmer
- y dyddiad
- eich llofnod
- tystiolaeth i ddangos bod eich enw neu’ch statws priodasol wedi newid.
Os ydych am newid swm y benthyciad y gwnaethoch ofyn amdano
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen.
Newidiadau y mae’n rhaid i’ch rhieni neu’ch partner sôn wrthym amdanynt
Os bydd eu hincwm yn newid
Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner:
- gywiro unrhyw gamgymeriadau am incwm eu cartref drwy anfon ffurflen PFF2 newydd atom (Lawrlwythiad PDF 356KB, yn agor mewn tab newydd)
- sôn wrthym os ydynt yn credu y bydd incwm eu cartref 15% yn is nag yr oedd yn ystod y flwyddyn dreth y cawsom fanylion ganddynt ar ei chyfer.
Os byddant yn cael plentyn arall
Rhaid i’ch rhieni neu’ch partner ddweud wrthym os byddant yn cael rhagor o blant, drwy anfon ffurflen PFF2 newydd atom (Lawrlwythiad PDF 356KB, yn agor mewn tab newydd).