Caledi ariannol


Gallwch hawlio am galedi ariannol os talwyd gormod o fenthyciad neu grant i chi yn flaenorol, a bod eich cyllid myfyriwr wedi’i leihau o ganlyniad. Nid yw ein proses hawlio caledi ariannol yn gyllid a delir yn ychwanegol at eich cyllid myfyriwr.

Os ydych mewn caledi ariannol oherwydd eich bod wedi cael ailasesiad o’ch hawl a bydd y newid yn eich rhoi dan anfantais ariannol, dylech geisio cymorth cyn gynted â phosibl.

Er enghraifft, os ydych wedi cael didynu gordaliad blwyddyn academaidd gynt o’ch cyllid gallai’r tîm caledi ariannol ohirio’r didyniad os bydd yn eich gadael heb ddigon i fyw arno yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn taliadau cyllid myfyrwyr parhaus yn ystod cyfnod o ataliad.

Edrychwn ar bob cais am galedi ariannol yn unigol. Sylwch nad oes unrhyw sicrwydd y bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo.

Beth y dylech ei wneud

Efallai y byddwch am siarad â’ch prifysgol neu’ch coleg am eich amgylchiadau. Gallant gynnig help a chyngor gydag unrhyw broblemau ariannol neu bersonol. Efallai y byddant hefyd yn gallu eich cyfeirio at bobl neu sefydliadau eraill a all helpu.

Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y gallwch os ydych yn dioddef caledi ariannol. Dylech gysylltu â ni i drafod eich opsiynau.

Sut mae gwneud cais

Bydd angen i chi gysylltu â ni, a byddwn yn anfon ffurflen ‘Cadarnhau Caledi Ariannol’ atoch. Gall eich prifysgol neu’ch coleg ofyn am y ffurflen ar eich rhan hefyd, a dylai fod modd iddynt eich helpu i’w llenwi.

Ar y ffurflen, byddwch yn rhoi manylion i ni am eich incwm ac unrhyw wariant. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael gafael ar y wybodaeth hon cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych eich holl wybodaeth ategol a manylion wrth law, dylech ddal i roi gwybod i ni am eich sefyllfa fel y gellir gwneud eich cais am galedi ariannol cyn gynted â phosibl.

Anfon tystiolaeth atom

Gallwch anfon y ffurflen sydd wedi’i llenwi a’r dystiolaeth atom drwy eu lanlwytho’n ddigidol i’ch cyfrif ar-lein neu drwy eu hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

Cyllid Myfyrwyr Cymru
Blwch Post 211
Cyffordd Llandudno
LL30 9FU

Ar ôl gwneud cais

Rydym yn gwybod bod y cyfnod hwn yn gallu bod yn anodd i chi, a byddwn yn ceisio adolygu eich cais cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os oes angen cyngor diduedd arnoch ar arian a dyled:

Cael eich talu

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus o dan ein proses caledi ariannol a bod taliad cyllid myfyriwr yn ddyledus i chi, bydd hwn yn cael ei dalu mewn 7 diwrnod gwaith a bydd unrhyw daliadau yn y dyfodol yn cael eu diweddaru hefyd.