Os gwnaethoch ddechrau’ch cwrs ar ôl 1 Medi 2014 a chyn 1 Awst 2018, gallwch gael Grant Cwrs i helpu gyda chostau cysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau a theithio. Nid oes angen talu’r Grant Cwrs yn ôl.
Parhau i ddarllen am ragor o wybodaeth neu ewch yn syth i Sut a phryd mae Ceisio
Fe allech chi gael Grant Cwrs fyny hyd at £1,155.
Parhau i ddarllen am ragor o wybodaeth neu ewch yn syth i Sut a phryd mae Ceisio
Mae’r hyn a gewch wedi ei selio ar eich incwm (ac incwm eich partner os yn berthnasol):
Incwm cartref | Swm Grant Cwrs |
---|---|
Llai na £26,095 | hafswm Grant Cwrs o £1,155 |
£26,095 i £28,180 | Grant Cwrs Rhannol (o leiaf £50) |
Mwy na £28,180 | Dim Grant Cwrs |
Rhaid i chi hefyd fod yn astudio dwyster cwrs ar gyfartaledd o o leiaf 50% i dderbyn Grant Cwrs.
Caiff y Cwrs Grant ei dalu’n un lwmp swm yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar ddechrau y tymor. I hyn i ddigwydd mae angen i chi gofrestru ar eich cwrs a’ch prifysgol neu goleg i gadarnhau eich bod yn bresennol.