Cyhoeddwyd: 11 Awst 2022  · Tagiwyd yn:  taliad israddedig rhan-amser  a  2022 i 2023

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf


Mae'n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth i'w wneud i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf mewn pryd.

Dylai myfyrwyr ddilyn y camau hyn i sicrhau eu bod yn cael eu talu mewn pryd:

  1. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi cyflwyno eu cais a darparu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom. Dylent fewngofnodi i'w cyfrif ar-lein a gwirio eu traciwr cais rhag ofn bod ganddynt unrhyw gamau i'w cwblhau.
  2. Gwiriwch fod eu manylion banc yn gywir yn eu cyfrif ar-lein. I wneud hyn, dylent glicio ar 'Eich manylion personol' yn eu cyfrif. Os oes angen iddynt eu diweddaru, dylech eu hatgoffa i wneud hyn o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn eu dyddiad talu.
  3. Cofrestru ar eu cwrs. Ni allwn wneud taliadau iddynt nes bod eu prifysgol neu goleg yn cadarnhau eu bod wedi cofrestru. Os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, dylent gofrestru cyn gynted â phosibl.

Ewch i'n tudalen taliadau neu gwyliwch ein ffilm 'Cael eich talu' ar YouTube am ragor o wybodaeth.

Os gwnaeth gais hwyr

Os yw myfyrwyr yn gwneud cais nawr, dylent ddal i dderbyn rhywfaint o arian yn agos at ddechrau eu cwrs, cyn belled â'u bod wedi darparu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom ac y cymeradwyir eu cais.

Oherwydd eu bod yn gwneud cais yn hwyr, efallai y byddant yn derbyn taliad llai i ddechrau.

Cynghorwch fyfyrwyr i wneud yn siŵr bod eu rhiant(rhieni) neu bartner wedi darparu eu manylion incwm fel y gallwn ailasesu eu hawl ac ychwanegu at eu taliad cyntaf cyn gynted â phosibl.

Caniatâd i rannu

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd delio â'u cais am gyllid myfyriwr, dylech eu hannog i sefydlu 'caniatâd i rannu' ar eu cyfrif. Gallant ein ffonio i roi caniatâd i ymarferydd HEP alw ar eu rhan a’u helpu i ddelio ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr sydd ganddynt.

Newyddion cysylltiedig

2023 i 2024: Ceisiadau israddedig rhan-amser yn agor yn fuan!

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

Gwybodaeth ac adnoddau newydd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr sy’n gadael gofal

Diweddariadau pwysig i fyfyrwyr sy'n gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr fel rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sy'n gadael gofal.

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth i'w wneud i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf mewn pryd.