Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mehefin 2022
Cyrsiau dynodedig
Caiff penderfyniadau ynghylch ceisiadau am ddynodiad penodol eu gwneud yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.
Ers 1 Awst 2024, mae Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gyfrifol am reoli’r broses o ddyfarnu dynodiadau penodol, sy’n cynnwys prosesu ceisiadau a monitro’n barhaus ddarparwyr cyrsiau yr oedd Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu dynodiad penodol iddynt cyn y dyddiad hwnnw. Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil hefyd yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylent ddyfarnu dynodiad penodol i gyrsiau ai peidio.
Mae'r rhestr o gyrsiau a ddynodwyd yn benodol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 o 28 Awst 2024 wedi'i rhestru isod.
Dynodi Cyrsiau Penodol i Israddedigion, Cyrsiau Ôl-radd a Chyrsiau Ôl-radd penodol at Ddibenion Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl
Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch trefniadau diwygiedig ar gyfer dyfarnu dynodiad penodol i gyrsiau yn 2015. Gellir lawrlwytho polisi Llywodraeth Cymru, a ddiweddarwyd yn 2020, isod. Mae’r polisi yn berthnasol i’r broses o ddynodi cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig a dynodi cyrsiau ôl-raddedig er mwyn galluogi myfyrwyr i gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Mae’r polisi yn berthnasol i’r broses o ddynodi cyrsiau a ddechreuodd ar 1 Medi 2017 neu wedi hynny.
Noder: dim ond i fyfyrwyr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf preswylio ar gyfer Cymru y mae’r broses o ddyfarnu dynodiad penodol yn berthnasol. Os hoffai sefydliadau wneud cais am ddynodiad i gyrsiau ar gyfer myfyrwyr cymwys sydd fel rheol yn preswylio:
yn yr Alban, dylent wneud cais i Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS)
yng Ngogledd Iwerddon, dylent wneud cais i Adran yr Economi
yn Lloegr, dylent wneud cais i’r Adran Addysg drwy’r Swyddfa Fyfyrwyr.
Pwy y dylid cysylltu â nhw
Os byddwch am gyflwyno cais i ddynodi cwrs neu os oes gennych ymholiadau am y canllawiau a’r broses, cysylltwch â Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil: Regulationadvice@medr.cymru
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ddynodi cwrs, cysylltwch â HECourseDesignation@gov.wales