Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023
Canllawiau i ganolfannau asesu
Rhestr o gyflenwyr Helpwyr Anfeddygol
Tra nad yw’n ofyniad i fyfyrwyr Cymraeg sicrhau eu cefnogaeth Lwfans Helpwr Anfeddygol gan gyflenwr hysbys, i gynorthwyo argymhellion, gall Asesydd Anghenion defnyddio’r rhestr hon i adolygu a dewis manylion cyswllt cyflenwyr presennol er mwyn rhoi dyfynbris Lwfans Helpwr Anfeddygol.
I ddiweddaru manylion cyswllt neu gofyn am wybodaeth am argaeledd, e-bostiwch dsa_requests@slc.co.uk.
Mae’r rhestr yn cael ei rheoli a’i pherchenogi gan yr Adran Addysg (Department of Education - DfE). Dylid cyfeirio at disabled.studentallowances@education.gov.uk gyda ceisiadau am unrhyw rolau ychwanegol neu ceisiadau i gael eu hychwanegu i’r rhestr.
Bydd cyflenwyr Lwfans Helpwr Anfeddygol, nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, sy’n cael eu hargymell ar gyfer myfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn cael ei ystyried fesul achos yn unol â chanllawiau Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
Lawrlwythwch y rhestr o Gyflenwyr Helpwyr Anfeddygol Cymeradwy (Taflen Waith Microsoft Excel)
Templed Adroddiad Asesu Anghenion
Gallwch nawr lawrlwytho templed safonol yr Adroddiad Asesu Anghenion a’r ddogfen ganllawiau. Rhaid defnyddio’r templed hwn ar gyfer pob adroddiad a gyflwynir i Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Matrics Manyleb Cyfrifiadur
Gallwch hefyd lawrlwytho’r ddogfen Matrics Manyleb Cyfrifiadur a’r Canllawiau i Aseswyr er mwyn penderfynu ar y fanyleb ar gyfrifiadur presennol y myfyriwr.