Cyrsiau dynodedig


Caiff penderfyniadau ynghylch ceisiadau am ddynodiad penodol eu gwneud yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.

Ers 1 Ebrill 2018, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gyfrifol am reoli’r broses o ddyfarnu dynodiadau penodol, sy’n cynnwys prosesu ceisiadau a monitro’n barhaus ddarparwyr cyrsiau yr oedd Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu dynodiad penodol iddynt cyn y dyddiad hwnnw. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylent ddyfarnu dynodiad penodol i gyrsiau ai peidio.

Mae'r rhestr o gyrsiau a ddynodwyd yn benodol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024 o 17 Awst 2023 wedi'i rhestru isod.

Gweld y cyrsiau sydd wedi cael dynodiad penodol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Dynodi Cyrsiau Penodol i Israddedigion, Cyrsiau Ôl-radd a Chyrsiau Ôl-radd penodol at Ddibenion Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl

Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch trefniadau diwygiedig ar gyfer dyfarnu dynodiad penodol i gyrsiau yn 2015. Gellir lawrlwytho polisi Llywodraeth Cymru, a ddiweddarwyd yn 2020, isod. Mae’r polisi yn berthnasol i’r broses o ddynodi cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig a dynodi cyrsiau ôl-raddedig er mwyn galluogi myfyrwyr i gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Mae’r polisi yn berthnasol i’r broses o ddynodi cyrsiau a ddechreuodd ar 1 Medi 2017 neu wedi hynny.

Polisi Llywodraeth Cymru ynghylch Dyfarnu Dynodiad Penodol i Gyrsiau

Noder: dim ond i fyfyrwyr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf preswylio ar gyfer Cymru y mae’r broses o ddyfarnu dynodiad penodol yn berthnasol. Os hoffai sefydliadau wneud cais am ddynodiad i gyrsiau ar gyfer myfyrwyr cymwys sydd fel rheol yn preswylio:

yn yr Alban, dylent wneud cais i Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS)

yng Ngogledd Iwerddon, dylent wneud cais i Adran yr Economi

yn Lloegr, dylent wneud cais i’r Adran Addysg drwy’r Swyddfa Fyfyrwyr.

Pwy y dylid cysylltu â nhw

Os byddwch am gyflwyno cais i ddynodi cwrs neu os oes gennych ymholiadau am y canllawiau a’r broses, cysylltwch â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: regulationadvice@hefcw.ac.uk

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ddynodi cwrs, cysylltwch â HECourseDesignation@gov.wales