Cyhoeddwyd: 29 Medi 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Medi 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023 gadael gofal  a  Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Gwybodaeth ac adnoddau newydd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr sy’n gadael gofal


Erbyn hyn rydym wedi cyhoeddi diweddariadau pwysig a gwybodaeth ac adnoddau newydd er mwyn eich helpu pan fyddwch yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n gymwys i gael cyllid myfyrwyr fel pobl sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu bobl sy’n gadael gofal, a phan fyddwch yn siarad â’r myfyrwyr hynny.

Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gymwys fel myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio os nad oes ganddynt fawr ddim cysylltiad â’u rhieni ac nad yw hynny’n debygol o newid.

Mae’n bosibl y byddant wedi ymddieithrio:

  • os ydynt yn byw gyda’u ffrindiau, yn byw mewn llety â chymorth, neu’n byw gydag aelodau eraill o’u teulu (modrybedd/ewythredd/neiniau a theidiau)
  • os un yn unig o’u rhieni y maent wedi’i adnabod erioed, a bod y rhiant dan sylw wedi marw erbyn hyn
  • os nad oes ganddynt berthynas â’u rhieni biolegol, ac nad ydynt efallai wedi cael unrhyw gymorth emosiynol nac ariannol dros gyfnod o amser.

Mae’n bosibl y byddant yn gymwys hefyd os yw eu cysylltiad â’u rhiant/rhieni’n gyfyngedig iawn am resymau penodol, er enghraifft wrth gadw mewn cysylltiad â’u brodyr neu’u chwiorydd.

Pobl sy’n gadael gofal

Yng nghyswllt cyllid myfyrwyr, pobl sy’n gadael gofal yw pobl ifanc sy’n bodloni’r holl feini prawf isod:

Os gwnaethant ddechrau eu cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, gallant wneud cais am gyllid myfyrwyr fel person sy’n gadael gofal:

  • os ydynt wedi bod yng ngofal eu hawdurdod lleol neu’u bod wedi cael llety gan eu hawdurdod lleol
  • os oeddent yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos
  • os daeth eu cyfnod mewn gofal i ben ar ôl iddynt gael eu pen-blwydd yn 14 oed.

Os gwnaethant ddechrau eu cwrs cyn 1 Awst 2018, gallant wneud cais am gyllid myfyrwyr fel person sy’n gadael gofal:

  • os ydynt wedi bod yng ngofal eu hawdurdod lleol neu’u bod wedi cael llety gan eu hawdurdod lleol
  • os oeddent yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos
  • os daeth eu cyfnod mewn gofal i ben cyn iddynt gael eu pen-blwydd yn 16 oed
  • os nad ydynt wedi cymodi â’u rhieni ers iddynt adael gofal.

Bydd cais myfyriwr bob amser yn cael ei asesu’n unol ag amgylchiadau unigol y myfyriwr.

Rydym wedi creu canllaw byr y gallwch ei roi i fyfyrwyr ynghylch gwneud cais am gyllid myfyrwyr fel person sy’n gadael gofal.

Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr sy’n gymwys fel pobl sy’n gadael gofal

Ac rydym hefyd wedi creu canllaw byr ynghylch gwneud cais am gyllid myfyrwyr fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio.

Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Mae’r Ffurflen Cadarnhau Ymddieithrio ar gael hefyd.

Ffurflen Cadarnhau Ymddieithrio

Newyddion cysylltiedig

Gwybodaeth ac adnoddau newydd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr sy’n gadael gofal

Diweddariadau pwysig i fyfyrwyr sy'n gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr fel rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sy'n gadael gofal.

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth i'w wneud i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf mewn pryd.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi pasio

Mae’n bwysig atgoffa myfyrwyr nad yw’n rhy hwyr iddynt wneud cais a chael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.