Cyhoeddwyd: 13 Mawrth 2024 · Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mawrth 2024  · Tagiwyd yn:  2024 I 2025

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau y bydd angen iddynt ailymgeisio am gyllid myfyrwyr, hefyd trwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau i wneud yn siŵr bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

- Myfyrwyr newydd – 31 Mai
- Myfyrwyr sy'n dychwelyd – 28 Mehefin

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar gwrs eto. Dylent roi manylion eu cwrs dewisol i ni a'i newid yn ddiweddarach os bydd angen.

Myfyriwr sy’n ariannu ffioedd dysgu yn unig

Myfyrwyr sy'n gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu UE yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Ceisiadau israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mai 2024.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o fis Mehefin 2024.

Pa gyllid sydd ar gael yn 2024 i 2025?

Anfonwch eich myfyrwyr at ein tudalen darganfod cyllid myfyrwyr fel y gallant ddarganfod pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales
Twitter - @SF_Wales
YouTube - /SFWFilm

Newyddion cysylltiedig

2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!