Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Hydref 2023

Ein Taith DSA


Yr haf hwn fe wnaethom gyrraedd carreg filltir bwysig yn ein taith ddiwygio Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).

Mae DSA yn gymorth ariannol ychwanegol y gellir ei ddefnyddio i dalu am y costau astudio ychwanegol y gall myfyriwr eu hwynebu o ganlyniad i’w hanabledd. Gan weithio gyda’n cydweithwyr yn yr Adran Addysg (DfE) ac Is-adran Addysg Uwch Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chasglu mewnwelediad ac adborth gan ein Panel Cwsmeriaid DSA a sefydliadau trydydd sector, rydym yn gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth er mwyn darparu profiad gwell ar gyfer cwsmeriaid DSA.

Ym mis Gorffennaf, dyfarnwyd y fframwaith i Study Tech Limited (Study Tech) a Capita Business Services Limited (Capita) ddarparu asesiadau o anghenion, technoleg gynorthwyol a hyfforddiant technoleg gynorthwyol i fyfyrwyr sy'n cael DSA. Bydd myfyrwyr yn parhau i wneud cais i SLC, fodd bynnag, unwaith y bydd eu cymhwysedd wedi'i asesu a'u cyllid wedi'i gymeradwyo, byddant yn cael eu dyrannu i un cyflenwr, a fydd yn rheoli eu cymorth o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer y gwasanaethau uchod. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr yn aml yn gorfod cysylltu â sefydliadau lluosog i geisio trefnu eu cefnogaeth ac maent wedi dweud wrthym fod y broses hon yn rhy hir ac anodd. Yn ogystal â symleiddio'r broses, bydd y model newydd yn arwain at roi trefniadau cytundebol ffurfiol ar waith a fydd yn gwella profiad y cwsmer, yn gwella tryloywder a rheolaethau, ac yn sicrhau mwy o werth am arian i fyfyrwyr a threthdalwyr.

Mae Study Tech a Capita yn brofiadol iawn o ran darparu gwasanaethau DSA ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos ac ar y cyd â nhw i gynllunio ar gyfer trosglwyddo i’r gwasanaeth newydd, a fydd yn digwydd ym mis Chwefror 2024. Mae'r amseriad wedi'i ddewis yn benodol gan ei fod yn cyd-fynd â phan fydd myfyrwyr yn dechrau gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 24/25. Nid oes unrhyw effaith ar fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn y brifysgol, na'r rhai sy'n dychwelyd i'w hastudiaethau, yr hydref hwn.

Yr hyn sy’n allweddol i’n diwygiadau yw darparu profiad gwell i gwsmeriaid ac rydym wedi ymrwymo i wella a chryfhau’r broses, i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion myfyrwyr yn well ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial mewn addysg uwch. Mae rhan o hyn yn golygu cynnal arolwg rheolaidd o gwsmeriaid ar ôl iddynt gwblhau rhannau o'u taith DSA. Mae hyn yn ein helpu i ddeall eu profiad o'r broses ymgeisio ac asesu anghenion, a chyflenwi a gosod offer. O dan y model gwasanaeth newydd, bydd SLC yn rhoi adborth boddhad cwsmeriaid i gyflenwyr ynghylch sut mae myfyrwyr yn derbyn eu gwasanaeth.

Bydd SLC yn goruchwylio ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid a thrwy reoli perfformiad ffurfiol, byddwn yn sicrhau bod cyflenwyr yn cyflawni yn erbyn gofynion y fframwaith.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod yn eang fel un sy’n galluogi cyfleoedd i fyfyrwyr ac yn darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid wrth gyflawni polisïau cyllid addysg bellach ac uwch pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn effeithlon. Mae diwygiadau caffael y DSA, a’r gwelliannau i daith y cwsmer y bydd yn eu galluogi, yn mynd â ni gam yn nes at wireddu’r weledigaeth hon. Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wella'r profiad i bob myfyriwr sy'n derbyn DSA a gwyddom fod mwy i'w wneud.

Newyddion cysylltiedig