Sut mae cael eich taliad cyntaf os ydych yn gwneud cais yn hwyr

Dilynwch ein camau allweddol ynghylch sut mae cael eich taliad cyntaf os ydych yn gwneud cais yn hwyr am gyllid myfyrwyr.

 

Peidiwch â phoeni os ydych methu'r dyddiad cau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig llawn amser.

Gallwch wneud cais o hyd a chael rhywfaint o arian yn agos at dechrau’ch cwrs.

Ewch i'n tudalen bwrpasol os ydych yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr rhan-amser neu ôl-raddedig.

Os nad ydych wedi gwneud cais eto neu os ydych newydd wneud cais am eich cyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser, bydd angen i’r canlynol ddigwydd i sicrhau eich bod yn cael rhywfaint o gyllid erbyn dechrau eich cwrs.

1. Gwneud cais am gyllid myfyrwyr

Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, mae’n bwysig eich bod yn creu cyfrif neu’n mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein ac yn gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae gwneud cais ar-lein yn broses gyflym a hawdd – dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais gyda:

  • Manylion eich pasbort
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich manylion banc

Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg i chi wneud cais. Gallwch wneud cais yn awr a diweddaru eich manylion yn nes ymlaen os oes angen. Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau eich blwyddyn academaidd.

2. Gwirio eich cyfrif ar-lein

Fel rheol, mae’n cymryd 6 i 8 wythnos i ni brosesu cais. Nid oes angen i chi ein ffonio i gael diweddariad tra byddwn yn gwneud hynny.

Tra'ch bod yn aros am ddiweddariad, dylech wirio eich 'camau i'w cwblhau' yn eich cyfrif ar-lein rhag ofn y bydd angen rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth gennych chi. Os na fyddwch yn cwblhau'r camau gweithredu, ni fydd eich cais yn gallu symud ymlaen.

3. Byddwn yn trefnu eich cyllid cychwynnol

Unwaith y byddwch yn cyflwyno'ch cais, mae'n bosibl y byddwn yn dyfarnu Benthyciad Cynhaliaeth a Grant i chi nad yw'n seiliedig ar incwm eich cartref i sicrhau bod gennych arian ar gyfer yn agos at ddechrau eich cwrs.

4. Byddwn yn asesu gweddill eich cais

Yna, byddwn yn asesu’r rhan o’ch cais sy’n ymwneud â manylion eich cartref, os yw’n berthnasol.

Pan fyddwn wedi prosesu’r manylion am incwm eich cartref, ni fydd y cyfanswm a delir i chi’n newid ond gallai cymhareb y Grant a’r Benthyciad Cynhaliaeth newid. Os talwyd gormod o Fenthyciad Cynhaliaeth i chi, mae’n bosibl y bydd angen ei ad-dalu neu y bydd yn cael ei dynnu allan o unrhyw hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth yn y dyfodol.

Os bydd eich Grant Cynhaliaeth yn cynyddu, gallech gael taliad pellach. Nid oes angen ad-dalu grantiau.

Os ydych yn gwneud cais gyllid myfyrwyr ar sail incwm eich cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch rhieni neu’ch partner ddarparu eu gwybodaeth ariannol cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi o safbwynt eich cais.

Bydd angen i’ch rhieni neu’ch partner fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli eisoes neu greu cyfrif newydd er mwyn anfon eu manylion. Ni fydd angen iddynt lanlwytho unrhyw dystiolaeth, yn enwedig ffurflenni P60, oni bai ein bod yn gofyn amdani. Bydd lanlwytho tystiolaeth nad ydym wedi gofyn amdani’n arafu’r cais.

Nid oes angen i chi ein ffonio i gael diweddariad, Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y cais wedi’i gymeradwyo yn llawn.

5. Beth y mae angen i chi ei wneud i gael eich taliad cyntaf

Er mwyn cael eich taliad cyllid myfyriwr cyntaf, bydd angen i chi hefyd gofrestru yn eich prifysgol neu goleg, gan na fyddwn yn gallu eich talu tan i chi wneud hynny. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r camau hyn, byddwn yn diweddaru eich cyfrif ar-lein, gan gadarnhau eich dyddiad talu cyntaf.

Nid oes angen i chi ein ffonio i wirio dyddiad eich taliad. Gallwch  fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i weld dyddiad a swm eich taliad.

6. Pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo yn llawn

Pan fyddwn wedi asesu’r manylion am incwm eich cartref, byddwn yn anfon llythyr arall atoch i gadarnhau’r swm llawn y mae gennych hawl iddo.

I gael pob math o wybodaeth am gyllid myfyrwyr, ewch i dudalen ein hymgyrch a dilynwch ni ar: