Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio!
Rydym wedi’i gwneud yn haws i fyfyrwyr ac ymarferwyr gael gwybod pryd y bydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig wneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023!
Drwy ymuno â’n rhestrau postio, byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y gall myfyrwyr wneud cais. Disgwylir y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau yn agor yn yr haf.
Helpwch ni i ledaenu’r gair ac annog myfyrwyr i ymuno â’n rhestrau postio er mwyn iddynt allu gwneud cais am gyllid myfyrwyr cyn gynted ag sy’n bosibl!
Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser
Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud ceisiadau.
Ceisiadau gan fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig
Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig wneud ceisiadau.
Newyddion cysylltiedig
2022 i 2023: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!
Dylech annog eich myfyrwyr i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.
2022 i 2023: Mae ceisiadau ôl-raddedig nawr ar agor!
Dylech annog eich myfyrwyr i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.
2022 i 2023 Ceisiadau myfyrwyr ôl-raddedig a rhan-amser
Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser ac ôl-raddedig agor yn yr haf.