Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae ein cyfnod i chi wneud cais am Fenthyciadau Gradd Meistr a Doethuriaeth Ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau eich cwrs.

 

Gwnewch gais yn awr

 

Gallwch wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer ar gwrs. Rhowch fanylion y cwrs yr ydych yn ei ffafrio i ni, a newidiwch nhw yn nes ymlaen os oes angen.