Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2021  · Tagiwyd yn:  2021 i 2022

2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn helpu myfyrwyr i fod yn barod!


Ymunwch â’n rhestr bostio

Mae disgwyl i’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr i astudio cyrsiau israddedig llawn-amser yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ddechrau ym mis Mawrth 2022.

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau wedi dechrau!

Ymunwch â’n rhestr bostio

Anogwch eich myfyrwyr i fynd i’n tudalen ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ cyn gwneud cais, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y mathau o gyllid y gallant wneud cais amdanynt.

Helpwch ni i rannu gwybodaeth am y rhestr bostio, trwy ei rhannu ar eich cyfrifon chi ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy rannu ac aildrydar ein negeseuon ni.

Fyddwch chi’n astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-raddedig?

Bydd ein rhestrau postio ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gael yn ddiweddarach yn 2022, felly cadwch olwg ar ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd) i gael diweddariadau rheolaidd am gyllid myfyrwyr.

Newyddion cysylltiedig

2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn helpu myfyrwyr i fod yn barod!

Mae disgwyl i’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr i astudio cyrsiau israddedig llawn-amser yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ddechrau ym mis Mawrth 2022.

Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer 2021 i 2022: Ymunwch â’n rhestr bostio!

Rydym wedi’i gwneud yn haws i fyfyrwyr ac ymarferwyr gael gwybod pryd y bydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig wneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022!

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi agor erbyn hyn.