2023 i 2024: Gwnewch gais yn awr am gyllid myfyrwyr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn!

Gwnewch gais yn awr!

Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu UE yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Myfyriwr o’r UE.

Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallwch wneud cais yn awr a diweddaru eich manylion yn nes ymlaen os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd!

Ewch i’n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i gael gwybod pa gyllid sydd ar gael i chi yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd am gyllid myfyrwyr.

Gallwch ddysgu mwy am sut y byddwn yn prosesu eich data trwy ddarllen ein polisi preifatrwydd.