2022 i 2023: Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn helpu myfyrwyr i fod yn barod!
Ymunwch â’n rhestr bostio
Mae disgwyl i’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr i astudio cyrsiau israddedig llawn-amser yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ddechrau ym mis Mawrth 2022.
Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau wedi dechrau!
Anogwch eich myfyrwyr i fynd i’n tudalen ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ cyn gwneud cais, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y mathau o gyllid y gallant wneud cais amdanynt.
Helpwch ni i rannu gwybodaeth am y rhestr bostio, trwy ei rhannu ar eich cyfrifon chi ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy rannu ac aildrydar ein negeseuon ni.
Fyddwch chi’n astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-raddedig?
Bydd ein rhestrau postio ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gael yn ddiweddarach yn 2022, felly cadwch olwg ar ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd am gyllid myfyrwyr.