Paratowch i wneud cais am gyllid addysg bellach!
Disgwylir i geisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC AB) yn 2023 i 2024 agor yn ystod gwanwyn 2023.
Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau bod eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau eich cwrs. Felly, gofalwch eich bod yn darllen ein tudalennau am y LCA a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill er mwyn cael gwybod a yw’r ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024 ar gael i'w lawrlwytho.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pwy all gael y cyllid hwn a faint y gallwch ei gael, ewch i’n tudalennau ynglŷn â:
Newyddion cysylltiedig
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid addysg bellach!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2025 i 2026 wedi agor erbyn hyn.
2024 i 2025: Gallwch nawr wneud cais am LCA a GDLlC AB ar-lein!
Gallwch nawr gyflwyno'ch cais ar-lein, heb orfod llenwi ffurflen bapur a'i phostio atom!
Mae’n bryd gwneud cais am gyllid addysg bellach!
Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2024 i 2025 wedi agor erbyn hyn.