Cyhoeddwyd: 27 Mawrth 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mawrth 2023  · Tagiwyd yn:  2023 i 2024

Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!

Ymgeisiwch nawr!

Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu UE yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Myfyriwr o’r UE.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o fis Mai 2023.

Myfyrwyr newydd

Os ydych yn fyfyriwr newydd, dylech wneud cais erbyn Dydd Gwener, 26 Mai 2023. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i gwblhau eich cais! Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg – gallwch ymgeisio nawr a diweddaru eich manylion yn ddiweddarach os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os gwnewch gais hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd!

Ewch i'n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i ddarganfod pa gyllid sydd ar gael i chi yn y flwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Myfyrwyr sy’n parhau

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n parhau, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein i wirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir. Dylech ailymgeisio cyn 30 Mehefin 2023 i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn nesaf eich cwrs.

 

Newyddion cysylltiedig

2023 i 2024: Ceisiadau israddedig rhan-amser yn agor yn fuan!

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

2023 i 2024: Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!

Paratowch i wneud cais am gyllid addysg bellach!

Disgwylir i geisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC AB) yn 2023 i 2024 agor yn ystod gwanwyn 2023.