Cam 2: Gwneud cais
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Sut mae gwneud cais a phryd

Bydd gwneud cais yn gynnar yn golygu bod gennych y siawns orau o gael cadarnhad ynglŷn â’ch cyllid a’i dderbyn erbyn dechrau eich cwrs.

Flwyddyn academaidd 2024 i 2025

Os ydych yn newydd i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 dylech ymgeisio ar-lein.

Bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi os ydych eisoes wedi creu un. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i ymgeisio.

Os na allwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi anfon ffurflen gais bapur atom. Mae nodiadau canllaw i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.

Gall ceisiadau gael eu derbyn hyd at 9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs, a gellir derbyn tystiolaeth ar gyfer eich cais hyd at 12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs. Er enghraifft, os dechreuodd eich cwrs ar 1 Medi 2024:

  • Bydd angen i chi anfon eich cais erbyn 31 Mai 2025
  • Bydd angen i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen erbyn 31 Awst 2025

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb GDLlC AB yn eich coleg i gael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2024 i 2025:

Flwyddyn academaidd 2023 i 2024

We’re no longer accepting applications for academic year 2023 to 2024. The last date for applications was 31 August 2024.

Dyddiadau pwysig

Ebrill

Bydd y cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn agor. Gorau po gyntaf y gwnewch chi eich cais. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod a fyddwch yn parhau i astudio yn yr ysgol neu’n mynd i goleg. Gallwch wneud cais o hyd a rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.

9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs

Rhaid ein bod wedi derbyn eich cais.

12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs

Rhaid ein bod wedi cael yr holl wybodaeth a’r holl dystiolaeth.

Myfyrwyr sy’n dychwelyd

Os dyma’r ail neu’r drydedd flwyddyn y byddwch yn cael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth drwy fynd i’n tudalen ynglŷn â Myfyrwyr sy’n dychwelyd.