Myfyrwyr sy’n dychwelyd
Os cawsoch Grant Dysgu Llywodraeth Cymru AB (GDLlC AB) y llynedd, nid oes angen i chi ailymgeisio. Byddwn yn anfon llythyr atoch am eich blwyddyn academaidd nesaf.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi anfon tystiolaeth neu lenwi ffurflen er mwyn i ni wirio eich manylion ariannol. Pan fyddwn wedi cael y wybodaeth a/neu’r dystiolaeth, byddwn yn cadarnhau a oes modd o hyd i chi gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), drwy anfon llythyr dyfarnu atoch.
Pan fyddwch wedi cael y llythyr hwn, dylech wirio bod y manylion i gyd yn gywir. Os oes unrhyw beth wedi newid, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Os ydym wedi gofyn i chi lenwi ffurflen neu roi rhagor o wybodaeth i ni, dylech ei phostio atom cyn gynted ag y gallwch.
Os yw’r holl wybodaeth yn gywir, dyma fydd yn digwydd nesaf:
- Mae'n rhaid i chi lofnodi eich Cytundeb GDLlC AB pan fyddwch yn dychwelyd i'r coleg. Gwnewch hyn o fewn 9 mis o ddechrau eich cwrs i fod â hawl i’ch taliadau GDLlC AB.
- Cwrdd â rheolau presenoldeb ac amcanion eich Cytundeb GDLlC AB fel y gosodwyd gan eich coleg er mwyn i chi gael eich taliadau.
- Rhaid i'ch coleg gadarnhau eich presenoldeb i ni er mwyn i chi gael eich taliadau.
Os na fyddwch wedi cael unrhyw lythyrau gennym erbyn 30 Mehefin 2024, dylech gysylltu â ni.
Incwm y cartref
Fel y llynedd, bydd eich cymhwystra i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Incwm blynyddol y cartref | Rhan-amser (275 – 499 o oriau) | Llawn-amser (500+ o oriau) |
---|---|---|
Hyd at £6,120 | £750 | £1,500 |
£6,121 – £ 12,235 | £450 | £750 |
£12,236 – £18,370 | £300 | £450 |
£18,371 a mwy | £0 | £0 |
Myfyrwyr dibynnol
Byddwch yn dal i gael eich ystyried yn fyfyriwr dibynnol:
- os na fyddwch wedi troi’n 25 erbyn yr adeg y byddwch yn dychwelyd i’ch cwrs
- os na fyddwch wedi sôn wrthym am unrhyw newidiadau a fyddai’n eich gwneud yn fyfyriwr annibynnol.
Mae’n bosibl y byddwn yn anfon llythyr atoch i ofyn i chi am dystiolaeth a gofyn i’ch rhiant/rhieni ddarparu eu manylion ariannol er mwyn gwirio a ydych yn dal yn gymwys neu beidio i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).
Os byddwch yn cael y llythyr hwn, bydd yn rhaid i’ch rhiant/rhieni roi manylion eu hincwm yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Myfyrwyr annibynnol
Os cawsoch lythyr gennym i ddweud ein bod yn awr yn eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol, y rheswm am hynny yw y byddwch yn 25 oed pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cwrs. Mae’n bosibl y bydd y llythyr hwn yn gofyn ichi am dystiolaeth, a gwybodaeth ariannol i wirio eich bod yn dal yn gymwys ar gyfer GDLlC AB.
Os byddwch yn cael y llythyr hwn, rhaid i chi roi manylion eich incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Os oes gennych bartner, bydd yn rhaid iddo/iddi roi manylion ei incwm/ei hincwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Bydd yr incwm uchaf, boed gennych chi neu’ch partner (os yn berthnasol), yn cael ei ddefnyddio i asesu faint o arian y mae gennych hawl i’w gael.
Os yw incwm eich cartref wedi gostwng
Os yw incwm eich cartref wedi gostwng yn barhaol ers blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwn asesu eich cais gan ddefnyddio incwm presennol eich cartref. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm presennol chi a’ch rhieni neu bartner. Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y bu gostyngiad parhaol mewn incwm ers blwyddyn dreth 2022 i 2023.
Mae’r nodiadau canllaw ymgeisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth y gallwch ei hanfon.
Unwaith y byddwch wedi cael GDLlC AB, efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol a gofyn am dystiolaeth bellach. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i fod yn gymwys.
Gwirio tystiolaeth ariannol
Os oes Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) wedi’i ddyfarnu i chi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, mae’n bosibl y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi anfon tystiolaeth ariannol atom i ategu’r wybodaeth a roddwyd yn eich cais.
Rhaid i chi anfon yr holl dystiolaeth ariannol ofynnol yn ôl erbyn 30 Tachwedd 2024 neu bydd eich taliadau’n cael eu hatal. Os na fyddwch wedi anfon tystiolaeth ariannol erbyn 31 Ionawr 2025, byddwch yn cael eich gwrthod gan y cynllun. Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw daliadau a wnaed i chi’n barod.