Incwm y cartref
Bydd eich cymhwystra i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar incwm eich cartref. Gallwch gael hyd at £1,500 ar gyfer cwrs llawn-amser neu hyd at £750 ar gyfer cwrs rhan-amser.
Incwm eich cartref yw naill ai:
- eich incwm chi neu’ch partner (os oes gennych un)
- eich incwm chi neu’ch rhiant/ rhieni
- eich incwm chi neu’ch rhiant a phartner eich rhiant.
Myfyrwyr dibynnol
Os ydych yn byw gyda’ch rhiant/rhieni, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr dibynnol.
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, bydd yn rhaid i chi roi manylion eich incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Bydd yn rhaid i’ch rhiant/ rhieni, neu’ch rhiant a phartner eich rhiant, roi manylion eu hincwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Bydd yr incwm uchaf, boed gennych chi neu’ch rhiant/rhieni, yn cael ei ddefnyddio i asesu faint o arian y mae gennych hawl i’w gael.
Mae rhagor o wybodaeth am incwm y cartref i’w chael yn yr adran rhieni a phartneriaid.
Myfyrwyr annibynnol
Byddwch fel rheol yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol:
- os ydych yn 25 oed neu’n hŷn
- os ydych yn gyfrifol am blentyn
- os ydych wedi eich cynnal eich hun yn ariannol ers o leiaf tair blynedd
- os ydych wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni ers dros 12 mis
- os yw eich rhieni wedi marw
- os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- os ydych yn berson sy’n gadael gofal, a’ch bod yn byw yng ngofal eich awdurdod lleol pan oeddech rhwng 14 neu 16 oed, yn dibynnu ar yr adeg y gwnaethoch ddechrau eich cwrs
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, bydd yn rhaid i chi roi manylion eich incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i’ch partner hefyd roi manylion ei incwm/ei hincwm ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023).
Bydd yr incwm uchaf, boed gennych chi neu’ch partner (os yn berthnasol), yn cael ei ddefnyddio i asesu faint o arian y mae gennych hawl i’w gael. Mae rhagor o wybodaeth am incwm y cartref i’w chael yn yr adran rhieni a phartneriaid.
Os ydych yn berson sy’n gadael gofal (nid ydych wedi byw yng ngofal cyfreithiol eich rhieni am o leiaf 13 wythnos cyn i chi droi’n 25), ni fydd angen i chi roi unrhyw wybodaeth ariannol i ni pan fyddwch yn cwblhau eich cais ond bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch statws.
Dysgwch fwy (Lawrlwythiad PDF 122KB, yn agor mewn tab newydd) am wneud cais fel myfyriwr annibynnol.
Trothwyau ar gyfer incwm y cartref
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar gyfanswm incwm eich cartref.
Mae’r tabl yn dangos y trothwyau ar gyfer incwm y cartref. Gallwch hefyd ddefnyddio’r gyfrifiannell addysg bellach (yn agor mewn tab newydd) i gyfrifo faint o arian y gallech ei gael. Gallwch gael hyd at £1,500 am gwrs amser llawn, neu hyd at £750 am gwrs rhan-amser.
Mae’r tabl yn dangos faint allech ei gael yn seiliedig ar incwm eich cartref.
Incwm blynyddol y cartref | Rhan-amser (275 – 499 o oriau) | Llawn-amser (500+ o oriau) |
---|---|---|
Hyd at £6,120 | £750 | £1,500 |
£6,121 – £ 12,235 | £450 | £750 |
£12,236 – £18,370 | £300 | £450 |
£18,371 a mwy | £0 | £0 |
Os yw incwm eich cartref wedi gostwng
Os yw incwm eich cartref wedi gostwng yn barhaol ers blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwn asesu eich cais gan ddefnyddio incwm eich cartref yn ystod y flwyddyn bresennol. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm presennol chi a’ch rhieni neu bartner. Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y bu gostyngiad parhaol mewn incwm ers blwyddyn dreth 2022 i 2023.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth y gallant eu hanfon.
Pan fydd Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) wedi’i ddyfarnu i chi, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol i ofyn am dystiolaeth. Diben hynny yw sicrhau eich bod yn dal yn gymwys.