Cam 2: Gwneud cais
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Tystiolaeth

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Os cawsoch lythyr gennym yn gofyn am dystiolaeth, gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn i’ch helpu i benderfynu beth y dylech ei anfon.

Os gwnaethoch chi neu’ch rhiant/rhieni neu’ch partner gwblhau ffurflen dreth bapur ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, efallai y gwelwch chi fod y canllaw hwn yn ddefnyddiol.

Efallai y gofynnwyd i chi neu’ch rhiant/ rhieni neu’ch partner anfon tystiolaeth ariannol i gefnogi eich cais. Neu efallai y gofynnwyd i chi lenwi Ffurflen Manylion Ariannol. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’r nodiadau yma.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Os cawsoch lythyr gennym yn gofyn am dystiolaeth, gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn i’ch helpu i benderfynu beth y dylech ei anfon.

Cafodd y canllaw ‘Tystiolaeth o Genedligrwydd a Manylion Preswylio’ ei ddiweddaru ar 24 Gorffennaf 2022 er mwyn cynnwys gwybodaeth i’r sawl sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU dan gynllun ar gyfer pobl o Wcráin.

Os gwnaethoch chi neu’ch rhiant/rhieni neu’ch partner gwblhau ffurflen dreth bapur ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021, efallai y gwelwch chi fod y canllaw hwn yn ddefnyddiol.

Efallai y gofynnwyd i chi neu’ch rhiant/rhieni neu’ch partner anfon tystiolaeth ariannol i gefnogi eich cais. Neu efallai y gofynnwyd i chi lenwi Ffurflen Manylion Ariannol. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’r nodiadau yma.