Cam 3: Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Cael eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

Eich llythyr dyfarnu

Byddwn yn anfon llythyr dyfarnu dros dro atoch i gadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Bydd eich ysgol neu’ch coleg yn dweud wrthym a yw eich cwrs yn gymwys i gael cyllid, a bydd angen i chi lofnodi Cytundeb Dysgu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Bydd eich ysgol neu’ch coleg yn cadarnhau pan fydd hynny wedi’i wneud. Yna, byddwn yn anfon llythyr dyfarnu terfynol atoch.

Bydd y llythyr hwnnw:

  • yn cadarnhau bod eich cwrs yn gymwys a bod eich cais wedi’i gymeradwyo
  • yn dweud wrthych beth yw symiau eich taliadau ar gyfer pob tymor
  • yn cadarnhau eich dyddiad geni a’ch ysgol neu’ch coleg
  • yn eich atgoffa i gysylltu â ni os bydd unrhyw beth yn newid.

Eich Cytundeb Dysgu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Cytundeb yw hwn rhyngoch chi a’ch ysgol neu’ch coleg. Mae’n amlinellu meini prawf ar gyfer presenoldeb er mwyn i chi gael eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).

Dylech lofnodi’r Cytundeb cyn gynted ag y gallwch, a chyn pen 12 mis fan bellaf ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs.

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar eich presenoldeb, dylech siarad â'ch ysgol neu goleg. Dylent allu esbonio pa fath o absenoldebau fydd yn eich atal rhag cael eich GDLlC.

Cael eich talu

Byddwch yn cael taliadau dair gwaith y flwyddyn ar ôl i’ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod yn bresennol.

Bydd eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc sydd yn eich enw. Dylech sicrhau bod y manylion banc yr ydych wedi’u rhoi i ni’n gywir. Os byddwch wedi anfon y dystiolaeth gywir, gellir gwneud taliadau i drydydd parti.