Cam 4: Yn ystod eich cwrs
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Gallai rhai newidiadau effeithio ar b’un a ydych yn dal yn gymwys neu beidio i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Dylech ddweud wrthym cyn gynted ag y gallwch os bydd unrhyw beth yn newid, ac erbyn 31 Awst 2025 fan bellaf.
Os bydd unrhyw un o’r canlynol yn newid, ffoniwch ni ar 0300 200 4050 i roi gwybod i ni. Byddwn yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud.
- Eich enw
- Y man lle’r ydych yn byw neu’ch trefniadau byw
- Y man lle’r ydych yn astudio
- Os byddwch yn dod yn gyfrifol am blentyn
At hynny, dylech ffonio i ddweud wrthym os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid oherwydd unrhyw un o’r canlynol:
- Bod eich rhieni wedi gwahanu neu ysgaru
- Bod un o’ch rhieni neu’r ddau ohonynt wedi marw
- Bod eich partner wedi marw
- Nad ydych yn byw mwyach gyda’ch partner
- Bod incwm eich cartref wedi gostwng.
Pan fyddwch yn ffonio, mae’n bosibl y byddwn yn anfon Ffurflen Newid mewn Amgylchiadau atoch. Bydd unrhyw ddyfarniad a addaswyd oherwydd gostyngiad yn incwm eich cartref yn berthnasol o’r dyddiad y daw’r ffurflen i law.