Cael eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru


Eich llythyr dyfarnu

Byddwn yn anfon llythyr dyfarnu dros dro atoch i gadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Bydd eich coleg yn dweud wrthym a yw eich cwrs yn gymwys i gael cyllid, a bydd angen i chi lofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Bydd eich coleg yn cadarnhau pryd y gwneir hyn. Yna byddwn yn anfon llythyr ddyfarniad terfynol i chi.

Bydd y llythyr hwnnw:

  • yn cadarnhau bod eich cwrs yn gymwys a bod eich cais wedi’i gymeradwyo
  • yn dweud wrthych beth yw symiau eich taliadau ar gyfer pob tymor
  • yn cadarnhau eich dyddiad geni a'ch coleg
  • yn eich atgoffa i gysylltu â ni os bydd unrhyw beth yn newid.

Eich Cytundeb Dysgu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Mae hyn yn gytundeb rhyngoch chi a’ch coleg. Mae’n amlinellu meini prawf ar gyfer presenoldeb er mwyn i chi gael eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).

Dylech lofnodi’r Cytundeb cyn gynted ag y gallwch, a chyn pen 12 mis fan bellaf ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs.

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar eich presenoldeb, dylech siarad â'ch coleg. Dylent allu esbonio pa fath o absenoldebau fydd yn eich atal rhag cael eich GDLlC.

Cael eich talu

Byddwch yn derbyn taliadau deirgwaith y flwyddyn ar ôl i'ch coleg gadarnhau eich presenoldeb.

Byddwch yn cael taliadau dair gwaith y flwyddyn ar ôl i’ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod yn bresennol.

Bydd eich taliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc sydd yn eich enw. Dylech sicrhau bod y manylion banc yr ydych wedi’u rhoi i ni’n gywir. Os byddwch wedi anfon y dystiolaeth gywir, gellir gwneud taliadau i drydydd parti.

Diweddaru eich manylion banc

Os gwnaethoch gais ar-lein am GDLlC AB, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i ddiweddaru eich manylion banc.

Os gwnaethoch gais gan ddefnyddio ffurflen gais bapur, bydd angen i chi ein ffonio i’w diweddaru.